Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw cysgu mewn cyflwr drwg; bu yn ddigon trafferthus ar y morwynion call pan ddaeth y priodfab ar haner nos, er bod yr olew ganddynt ; ond bu o annrhaethol golled i'r rhai ffol, gan eu bød heb ddarparu olew i'r daith. O! gyfeillion, pwy a wyr pa nifer o honom ni a wyneba y daith hirfaith ddidroi yn ol, cyn y gwelir y Gymdeithas Gyfeillgar hon byth mwy yn ymgynull fel heddyw. A ydych yn meddwl fod darpariaeth i'r daith? Os awn i gystudd cyn hyny, yr ydym wedi darparu rhyw gymaint rhag dioddef eisiau; ond a oes genym ddarpariaeth ar gyfer tragwyddoldeb? Mae yn dyfod i fy nghof am un Jonathan Barker, yr hwn oedd yn ddyn poenus o'i febyd am bryder a gofal am y dyfodol, fel na allai siarad yn obeithiol am ddim. Felly yr oedd ei gymeriad yn ngolwg pawb a'i hadwaenai wedi iddo dyfu i oedran gwr. Pan y byddai yn planu ac yn hau, byddai yn darogan gwres i ddistrywio y blodau a'r egin. Pan yn medi, byddai yn darogan cawodydd yn barhaus, a dinystr y cnwd. Yr oedd y nefoedd yn bendithio ei lafur bob blwyddyn â chynyrch, nes o'r diwedd iddo orfod adeiladu ysguboriau, nad oedd eu cyffelyb mewn maint yn yr holl wlad. Ond dywedai ei fod yn marw heb ddim ond tlodi o'i flaen. Cafodd o'r diwedd sail i'w bryder am y dyfodol.

Ewch ati i barotoi i fyned i'r nefoedd. Mae llawer wedi myned trwy yr holl rwystrau, heibio y llewod a'r cwbl, a hyny gyda hyfrydwch. Ewch chwithau yr un fath, ond penderfynu ymdrechu yn nerth gras.