Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er profi hyn, meddyliwch am y dyn y cnydiodd ei feusydd mor dda, nes y gorfu arno adeiladu ysguboriau mwy. Yr oedd hwnw yn ddyn digon call yn trin y byd, ac yn deall pa fodd i barotoi ar ei gyfer, ac i wneyd hyny mewn pryd. Ond "ynfyd" y galwai Duw ef, am ei fod yn ddiofal am ei enaid. Mae y rhai a esgeulusant ddydd iachawdwriaeth, i barotoi ar gyfer tragwyddoldeb, yr un mor ynfyd a hwnw yn ngolwg Duw. Ac nid gormod hyfdra fyddai dweyd wrth bob un yn bersonol, "Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; ac edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth."

Rhyw oes ryfeddol yw yr oes hon am ddarparu ar gyfer amgylchiadau blinion a cholledus yn y bywyd hwn. Mae dynion yn insurio eu tai, eu meddianau, a'u bywydau, er sicrhau rhyw eiddo ar ol eu colli. Yr ydym yn ystyriol o'r hyn all ddigwydd i ni, ac felly yn sicrhau gallu cymdeithas o'n plaid, tra y mae iechyd a llwyddiant yn gwenu. Mae yn beth pur ryfedd fod dynion mor ofalus i ddarparu ar gyfer mân amgylchiadau y byd hwn, i roddi pob peth yn barod yr haf ar gyfer y gauaf, ac eto, yr un dynion mor ddiofal i barotoi ar gyfer tragwyddoldeb. Gall y bydd angau yn eu hamddifadu rhag mwynhau llawer o'u rhagddarpariadau tymhorol, fel y gellir dweyd mai i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol; ond eto, gwnant eu goreu gyda'r rhai hyn. Ond rhyfedd mor ddifater ydynt i "drysori sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod," a "thrysori trysor yn y nef." Mae llawer yma heddyw, mewn ystyr foesol, yn caru cysgu, ac yn caru hepian," a'r haf a'r cynhauaf yn myned heibio heb ddarparu ar gyfer byd arall. Yr ydych yn meddwl am grefydd, ond rhaid aros tipyn bach, mae rhyw rwystrau yn awr ar y ffordd, gan fod "ffordd y diog fel cae drain," yn llawn o rwystrau. Mae pob dyledswydd yn anhawdd ei chyflawni, mae "llew mawr ar y ffordd " ymhob man; ond esgusodion creadur ofer yw y cwbl.

Gochelwch, gyfeillion, gellwair â pheth o gymaint pwys. Mae canlyniad i'r "ychydig gysgu ac ychydig hepian." Mae swn traed tlodi ac angen yn canlyn o hirbell i'r segurdod. Bobl, peth ofnadwy