Na châr gysgu rhag dy fyned yn dlawd. Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd," yn ddisymwth ac annisgwyliadwy; "a'th angen fel gwr arfog,"—yn anwrthwynebol. Nid gwaith hawdd i'r gwr heb arfau droi y gwr arfog yn ei ol,—" ond enaid y diog a ddeisyf ac ni chaiff ddim." Yr oedd Solomon wedi sylwi yn graff ar faes y dyn diog a gwinllan yr anghall, ond ni welodd yno ddefnydd ymborth o gwbl,—" Wele, codasai drain ar hyd—ddo oll, danadl a guddiasai ei wyneb ef, a'i fagwyr gerig a syrthiasai i lawr." Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad.
Mae bod yn ddiddarbod, neu yn afradus, yn arwain i'r un canlyniadau. Brawd i'r treulgar yw y diog. Mae rhoddi at y peth afreidiol hyn, a'r peth afreidiol arall, er diwallu blys y genau, neu falchder y bywyd, yn debyg o arwain yn y diwedd i dlodi, newyn, a dinystr anocheladwy. Meddyliwn beth pe byddai miloedd yn esgeuluso eu dyledswyddau yn yr haf a'r cynhauaf, beth a ddaethai o'r wlad? Mae pawb yn gwybod. Mae pwys mawr, hefyd, mewn darbodi ar gyfer henaint a methiant, heblaw ar gyfer cystudd ac angau. Carai llawer mewn cyfyngder dderbyn cymorth oddiwrth ryw gymdeithas fel hon, ond heb wneyd ymdrech i gasglu mewn cryfder, iechyd, a llwyddiant.
III. YR ALWAD DDIFRIFOL SYDD YMA I BEIDIO ESGEULUSO YR ADEG FANTEISIOL AR GYFER Y DYFODOL.— Edrych, Pa hyd? Bydd ddoeth." Mae hyn yn bwysig iawn mewn ystyr naturiol; ond y mae yr ystyr hwnw, i raddau, yn afreidiol ei gymeryd mewn lle fel hwn, gan mai pobl ystyriol o hyny ydych gan mwyaf oll. Mae ymuno â chymdeithas fel hon, a dal ati, yn profi hyny i raddau pell, trwy eich bod yn parotoi ar gyfer damweiniau, cystuddiau, henaint, a phrofedigaethau eraill. A buasai yn fwy buddiol, o bosibl, eich anerch heddyw ar ryw eiriau tebyg i'r rhai hyny, “Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear;" oblegid pe cyferchid neb o honoch yn bersonol fel dyn diog, diau y teimlech yn ddwys. Ond, gyfeillion, goddefwch i mi ddweyd, mae yma ddegau, os nad ugeiniau o honoch, sydd yn dal cymeriad y testyn gerbron Duw.