Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

segurwyr mewn ardal, mwyaf i gyd fydd am fod yn segur, a llawnaf fydd yr ardal o ddefnyddiau cynen a melldith. Nid oes gan y cyfryw yr un sail i ofyn bendith yr Arglwydd arnynt, gan mai llafur y mae efe bob amser yn fendithio. Mae yn wir i Grist wneyd gwyrthiau i borthi miloedd, ond yn ngwyneb angen y gwnaeth hyny. Meddyliodd rhyw liaws o'r tyrfaoedd mai felly yr oedd i fod mwy, a thebygaf eu clywed yn dweyd y naill wrth y llall, "Dyma hi wedi dyfod arnom, fechgyn, dewch i ni gael gwneyd hwn yn frenin, mae gobaith i ni gael byw heb weithio gyda hwn." Aethant felly ar ei ol. Ond nid hir y buout heb ddeall mai nid dynion diog oedd i fod yn ganlynwyr Iesu o Nazareth. Gweithiwr caled oedd ef ei hun, i wneyd "gwaith yr hwn a'i hanfonodd, tra yr oedd yn ddydd."

Mae yr apóstolion yn dysgu yr un pethau. Dyma fel y dywed Paul wrth y Thessaloniaid, "A rhoddi o honoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio a'ch dwylaw eich hunain, megis y gorchymynasom i chwi. Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd allan, ac na byddo arnoch eisiau dim." Ac yn ychwanegol at fod yn ddiwyd, dylem fod yn ddarbodus. Mae llawer yn dra diwyd, ond heb fod yn ddarbodus mewn un modd. Ond y mae Paul yn gosod pwys mawr ar y darbod, gan ddangos fod anrhydedd crefydd yr efengyl yn galw am dano, a bod yr hwn nad yw yn gwneyd yn "waeth na'r di ffydd." Gallwn weled bellach fod amcanion ein cymdeithas a'u rheolau wedi eu nyddu allan o Air Duw ; ac wrth sefyll atynt y gallwn ddisgwyl bendith yr Arglwydd arni er ein cysur tymhorol, a'i amddiffyn drosti. "Os yr Arglwydd nid adeilada'r ty, ofer y llafuria'r adeiladwyr wrtho "

II. Y CANLYNIADAU PWYSIG A DDAW O ESGEULUSO HYN."Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a'th angen fel gwr arfog." Mae y diog yn yr haf a'r cynhauaf yn caru gorwedd a chysgu, a dywed, "Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw i gysgu." "Mae y diog yn ei waith yn frawd i'r treulgar.