Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am iddynt "ddarbod dros yr eiddo, a gweithio a'u dwylaw eu hunain," a myned at y morgrugyn am wers ar y mater. Yr hyn a ddysgir yma

I. YW DYLEDSWYDD DYN I FOD YN DDIWYD A DARBODUS.— Gelwir ni yma at greaduriaid bychain iawn i ddysgu hyn. Mae pawb o honom wedi bod yn sylwi mor ddiwyd yw y morgrugyn yn casglu, a hyny yn y tymor manteisiol. Mae gwahanol ddywediadau am y creaduriaid hyn. Dywed rhai mai nid ar gyfer y gauaf y maent yn parotoi, gan nad oes ganddynt ddim yn eu celloedd y pryd hwnw, a'u bod yn cysgu neu yn marw y gauaf fel llawer o greaduriaid eraill. Barna eraill fod rhai rhywogaethau o honynt yn byw yn y gauaf, a'u bod yn ymborthi ar eu darpariaeth. Ond y mae geiriad y testyn yn dangos eu bod yn mwynhau y gauaf y pethau oeddynt wedi "barotoi a chasglu yn yr haf a'r cynhauaf.” Y peth a ddysgir i ni yma yw, mai ein dyledswydd yw bod yn ddiwyd a darbodus yn yr adeg fanteisiol i wneyd hyny, sef adeg o iechyd a llwyddiant. Mae y Beibl yma yn llefaru llawer iawn wrth y dyn diofal a diog. Ni chreodd Duw ddyn i fod yn segur. Yr oedd Adda yn ei sefyllfa o ddiniweidrwydd i lafurio a chadw yr ardd; ond y mae y diog yn disgwyl cael peth na chaniatawyd i Adda yn mharadwys, sef cynhaliaeth heb weithio. Ac wrth ddyn fel pechadur dywedodd, "Trwy chwys dy wyneb y bwytai fara." Ond y mae yma drugaredd, "bara" ydyw, nid careg ac nid melldith.

Mae holl ddysgeidiaeth y Beibl yn profi yr un peth. Dangosodd yr Arglwydd ofal mawr am y tlawd wrth roddi cyfreithiau i genedl Israel. Nid oedd y cyfoethog i lwyr gasglu unrhyw gnwd o'i eiddo, ond yr oedd yn rhaid iddo adael rhan o hono i'r tlawd; er hyny, yr oedd yn rhaid i'r tlawd, yntau, i godi yn foreu a dilyn yn hwyr i loffa y gweddillion, a hyny yn yr amser priodol. Yr oedd yr Iuddewon yn hynod ofalus i ddysgu rhyw gelfyddyd i'w plant, er mwyn eu dysgu i fod yn onest a gweithgar. Nid oes dim yn fwy niweidiol i foesau gwlad na segurdod; ac os bydd llawer o