os gall yr angel ddweyd, crewyd fi "trwy Ysbryd ei enau ef," gall yntau ddweyd, “Anadl yr Hollalluog a'm bywiocaodd i." Yr oedd dyn y pryd hwnw yn greadur ardderchog iawn, yn arglwydd ar yr holl greaduriaid "Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylaw, gosodais bob peth dan ei draed ef." Ond rhyfedd y cyfnewidiad pan aeth dyn yn bechadur! Yn lle bod yn arglwydd ardderchog, aeth pob peth yn ddychryn iddo, ac yntau yn îs na'r holl greaduriaid o'i gwmpas o ran amcan bywyd. Felly y mae yn aros i raddau byth; mae yn cael ei alw yma at un o'r creaduriaid distadlaf, i gael gwers ar beth mwyaf pwysig ei fywyd, -parotoi ar gyfer y dyfodol. Yr ydym oll wedi syrthio; ac fel y mae y gwynt yn chwythu y dail, un yma a'r llall draw, felly yr ydym ninau trwy yr anian bechadurus, wedi "troi bawb i'w ffordd ei hun," un yn afradlon, diog, ac esgeulus, y llall yn gybydd llawn o ragofalon, pob un a'i ffordd ei hun.
Wrth ddarllen y Beibl, yr ydym yn gweled rhai adnodau fel yn gwrthddweyd rhai eraill, "Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear" "Na ofalwch ;" "Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd," meddai Iesu Grist. A dywed yr Apostol Paul, "Od oes neb heb ddarbod dros ei eiddo, yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di ffydd." "Gan weithio a'u dwylaw yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddynt beth i'w gyfranu i'r hwn y mae angen arno." Gellid meddwl fod Iesu Grist yn pregethu yn erbyn un o brif ddibenion ein cymdeithas,[1] yn erbyn ein testyn, ac yn erbyn lliaws o adnodau cyffelyb. Ond yr hyn a orchymyna Efe yw, peidio pryderu a rhagofalu am bethau y ddaear, fel ag i esgeuluso y pethau penaf; peidio llwytho ein hunain ag awydd anghymedrol, a rhoddi ein holl amser a'n llafur at olud anwadal. Wrth rai felly dylid dweyd, "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Ond o'r tu arall, os bydd rhywrai yn esgeuluso eu dyledswyddau tymhorol, ac yn ddiog yn eu gwaith, mae priodoldeb yn ngeiriau Paul a'r testyn,
- ↑ Cymdeithas Gyfeillgar oedd yn y gymydogaeth, i'r hon y pregethai.