Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Peth sobr fydd dyfod i gysylltiad â'r efengyl heb ei chredu. "Hon yw y ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni, canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg." Bydd yn drwm ar y pagan druan, "ond hon yw y ddamnedigaeth!" O! bobl, yr ydych wedi eich taflu i sefyllfa ag sydd yn gwneyd eich cyfrifoldeb yn ofnadwy yn eich cysylltiad a'r efengyl. Ped arhosech gartref heb ddyfod i'r moddion, byddech yn casglu cynud wrth wneyd hyny. Nid oes dim yn well i chwi wneyd na chwympo i mewn â thelerau yr efengyl ar frys. Oblegid os parhewch i fyned ymlaen heb fod dan ymgeledd iachawdwriaeth, byddwch fel y ddaear sydd yn derbyn gwlaw, ond yn dwyn drain a mieri, ac nid llysiau cymwys, yn cael eich rhoddi fyny i felldith, —"diwedd yr hon yw ei llosgi."

PREGETH X.

PAROTOI ERBYN Y DYFODOL.

"Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth," &c.—DIAR. VI. 6—11.

CREODD Duw ddyn yn uniawn, ar ei ddelw, mewn gwybodaeth, cyfiawnder, a gwir sancteiddrwydd. Nid oedd ei gyffelyb ar y ddaear, yr oedd yn "uchder llwch y byd." Yr oedd yn harddach na'r holl greaduriaid daearol o ran ei gorff, ond ei enaid oedd ei ragoriaeth fawr. O ran ei gorff, gallasai y pryf distadlaf ddweyd wrtho, "Fy mrawd wyt, canys o'r clai y torwyd dithau fel finau." Ond o ran ei enaid, gall ef honi perthynas â'r angel uchaf; canys