Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am Grist, gan i Grist roddi y gorchymyn am ddechreu yn Jerusalem," sef rhoddi y cynyg cyntaf am iachawdwriaeth i'r genedl a groeshoeliodd Grist. Fel pe dywedai Crist, "Er iddynt fy nghroeshoelio, gwnaf wedi y cwbl eu harbed, a rhoddaf fy ngwaed i’w golchi os derbyniant yr efengyl. Ond gan iddynt wrthod, rhaid oedd troi at y cenhedloedd, a'u rhoddi hwythau i fyny i ddinystr. Dyna "ŵr y ty," wedi myned i draul fawr i arlwyo gwledd, ac anfon gweision allan i wahodd, yn cael ei yru i ddigio, am iddynt yn unfryd ymesgusodi ;" ac felly tyngodd na chawsai yr un o'r gwyr hyny a wahoddwyd brofi o'r swper. Pwy amynedd allai oddef y fath ddiystyrwch? Ond O! gyfeillion, pa fodd yr ydych chwi yn gwneyd a'r gweision yn awr. Gochelwch rhag i ŵr y ty ddigio a'ch gollwng i afael "meddwl anghymeradwy."

Gallwn weled y perygl o ddiystyru galwad yr efengyl a breintiau crefydd yn eglwysi Asia Leiaf. Bu y rhai hyny unwaith yn tynu sylw y byd oblegid eu crefydd a'u llwyddiant; ond trwy syrthio i arferion llygredig, er eu holl freintiau, symudwyd y canhwyllbren o'u plith, ac aethant yn sathrfa i farnau dinystriol, fel nad oes bellach ond bwthynod gwael lle bu palasau ardderchog, tlodi yn lle cyfoeth, a gwarth yn lle clod—"i halen y rhoddwyd hwynt." Yr oedd y cenhedloedd gynt yn dweyd mai Cristionogaeth oedd y felldith fwyaf i bob gwlad, oblegid eu bod yn gweled y barnau tostaf yn cael eu tywallt ar y gwledydd a'i gwrthodent. Mae cymaint o ddaioni a thiriondeb Duw, cynyrch ei gariad tragwyddol, yn cael eu datguddio yn yr efengyl, fel na all anfeidrol amynedd ddal yn hir heb ddigio, wrth y rhai fydd yn dal yn gyndyn i'w camddefnyddio a'u diystyru. Onid yw yn beth rhyfedd na byddai wedi digio wrth y Cymry, ac wedi symud y canhwyllbren o'n plith? O! fechgyn a merched, cymerwch rybudd mewn pryd. Nid oes dim yn pwyso mor drwm ar anfeidrol amynedd ei hun na gwrthod y Mab.

Mae lle i ofni fod llawer yn myned a dyfod gyda moddion gras, heb feddwl am y cyfrif manwl fydd raid iddynt ei roddi am hyny.