Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddangos y perygl, a thori bylchau yn y gwrthgloddiau sydd yn atal dynion i'w weled.

3. Y rhai rhagrithiol gyda chrefydd.—Clywaf un yn dweyd, "Ië, dylech ddeall fy mod i yn aelod eglwysig." Wel, digon priodol. Ond a ydyw yr efengyl wedi dy fywhau? A ydwyt yn byw bywyd o ffydd yn Mab Duw? A ydyw yr efengyl wedi dy iachau oddiwrth dy hen arferion? Yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn grefyddol iawn, ond "beddau wedi eu gwyngalchu" oeddynt ar y goreu.

II. TRUENUS GYFLWR Y RHAI A DDIBRISIANT AC A WRTHODANT YR EFENGYL.— "I halen y rhoddir hwynt." Mae hyn yn cynwys eu rhoddi i fyny i farn, fel y mae tir sydd a halen ynddo yn dir diffrwyth, ac o ganlyniad yn anghymeradwy. Dywedir yr arferir yn yr iaith wreiddiol ddweyd tir hallt am dir diffrwyth. Hauodd Abimelech halen ar Sichem yn arwydd o felldith. Mewn "tir hallt anghyfaneddol" y mae y rhai sydd dan felldith yn preswylio. Cyflawnwyd hyn ar lawer o genhedloedd a gwledydd am ddiystyru ac anghredu yr efengyl. Edrychwch ar wlad yr addewid, lle y bu cenedl liosog o had Abraham yn preswylio, a chysegr Duw wedi ei adeiladu fel llys uchel yn eu mysg; ac i chwanegu at fawredd eu breintiau, y wlad lle bu Duw yn y cnawd yn llefaru geiriau, ac yn cyflawni gwyrthiau, mae hono er's canrifoedd wedi ei rhoddi i halen. Gwlad anghyfanedd ydyw, y dinasoedd wedi eu "hanrheitho fel pe dymchwelai estroniaid" hwynt, a'r preswylwyr yn wibiaid a chrwydriaid ar hyd holl wledydd y ddaear.

Mae pob pechod yn haeddu tragwyddol gosb'; ond o bob pechod a gyflawnodd Israel, ac a gyflawnir eto gan eraill, gwrthod Mab Duw, ac anghredu yr efengyl sydd yn haeddu y gosbedigaeth drymaf. Onid oedd yr Iuddewon yn euog o bechodau ysgeler eraill yn amser Iesu Grist? Oeddynt, yn euog o orthrymu, o drais ac annuwioldeb, o ragrith a chelwydd ; ond i ychwanegu at yr oll darfu iddynt groeshoelio Arglwydd y gogoniant. Ond fe gawsent eu harbed wedi y cwbl pe buasent yn derbyn cenadwri yr efengyl