Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

groes iddi, ymysg y lleoedd lleidiog a'r corsydd. Ni chafodd neb dan haul fwy o fanteision i fod yn gadwedig na chenedl y Cymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llais durtur, fwyn yr efengyl yw y peth cyntaf a glywsoch, ac a dynodd eich sylw yn eich mebyd, gweled ein rhieni ac eraill yn cyrchu at ei hordinhadau, ac yn gorfoleddu yn y mwynhad o'r dyfroedd grisialaidd, roddodd y meddwl mawr a thyner cyntaf ynom am dani. Mae llawer o honynt hwy wedi myned adref yn wyn ac yn iach trwy rinwedd ei dyfroedd; ond diolch,

"Er cymaint ag a olchwyd,
Sydd yn y nef yn awr,
Mae'r afon fel y grisial
Yn ngwlad y cystudd mawr."

Ac y mae ei dyfroedd wedi dyfod yn agos iawn atoch chwi, ac y mae galwad daer arnoch i ddyfod iddynt, "O! deuwch i'r dyfroedd." Beth ydyw yr holl freintiau crefyddol, yr holl bregethu am Geidwad, yr holl gyfarfodydd gweddiau, a'r holl ddysgu yn yr Ysgol Sabbothol? Onid gorlifiad dyfroedd y cysegr ydynt, sydd yn amgylchu ac yn rhedeg o'ch cwmpas ? Maent wedi cyrhaeddyd i mewn i'ch deall, ac wedi ymlenwi i'ch cof. Pa gynifer o honoch na all adrodd gyda pharodrwydd yr adnodau mwyaf cymhelliadol ?" O deuwch i'r dyfroedd," "Deuwch ataf fi bawb a'r sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch," "Yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw."

Ond wedi y cwbl, a oes dim lle i ddweyd, "Eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyddymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant." Mae yna ryw bechod anwyl yn aros rhyngddynt â chredu, yn aros yn wrthglawdd rhyngddynt å dylanwad y gwirionedd. Oblegid hyny, y mae yn well gan y dyn redeg y risk gyda golwg ar ei fywyd tragywyddol, nag ymwadu â'r gwrthddrych gwaharddedig hwnw, neu groeshoelio y chwant llygredig hwnw. O dymunwn am i Ysbryd Duw