Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH IX.

Y LLEOEDD LLEIDIOG.

"Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir, i halen y rhoddir hwynt."EZEC. XLVII. 11.

ER holl effeithiau daionus dyfroedd y cysegr, mae y proffwyd yn gweled fod rhyw fanau yn aros heb eu cyfnewid, sef y lleoedd lleidiog a'r corsydd Sylwn yn

I. FOD YN BOSIBL AC YN DEBYG Y BYDD RHAI YN AROS YN EU CYFLWR NATUR ER POB MANTEISION CREFYDDOL· "Lleoedd lleidiog a chorsydd ni iacheir."

1. Golygir wrth y rhai hyn, y gwledydd a'r bobl sydd yn gwrthod Athrawiaeth yr efengyl. Erys y rhai hyn yn anobeithiol. Un ffordd i gadw mae Duw wedi ddarparu, a chyhoeddiad y drefn hono ydyw yr efengyl. Dywed yr efengyl am wisg i guddio yr euog, am y ffynon i olchi yr aflan, am y meddyg i gleifion, a'r noddfa i lofruddion ymguddio ynddi. Hi yn unig sydd yn "rhoddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'r bobl trwy faddeuant o'u pechodau." Ni fedd Duw yr un moddion arall at wella pechadur, ac nid yw yn meddwl trefnu yr un chwaith. O ganlyniad, mae pob gwlad, cenedl, a pherson fyddo yn gwrthod yr efengyl, yn aros yn y cymeriad o fod yn lleoedd lleidiog a chorsydd. Dim ond i ni edrych ar y gwledydd a'r cenhedloedd sydd yn amddifad o athrawiaeth yr efengyl, rhyw "drigfanau trawsder" ydynt oll.

2. Y rhai sydd heb roddi ufudd-dod i'r efengyl, er gwybod yr athrawiaeth a'r dyledswyddau. Mae lle i ofni y gellir cyfrif llawer o wrandawyr efengyl heddyw, y dynion sydd a'u calonau heb deimlo oddiwrth ei chenadwri, ac o ganlyniad eu bucheddau yn