awdwriaeth gras, yn myned allan o dan orseddfainc Duw a'r Oen, ac yn gwynebu ar fyd o golledigion, a'i rhinwedd yn ddigon effeithiol i roddi bywyd i bawb ddelo i gyffyrddiad â hi. Mae y dyfroedd yn gallu glanhau pob aflendid, ïe, "pe byddai eu pechodau fel ysgarlad, ant cyn wyned a'r eira, pe cochent fel porphor," gan fywyd o 60 mlynedd o bechu, mae gras yn ddigon effeithiol i'w gwneyd fel y gwlan. Gwna gras, nid yn unig roddi bywyd, ond gwna bawb yn iach. Ac oblegid fod y dyfroedd mor iach, bydd ynddynt bysgod lawer; ac oblegid hyny, bydd llawer o bysgodwyr. A bydd i'r pysgodwyr sefyll arni, o Engedi hyd Eneglaim, dau le un o bob tu i'r Môr Marw, yn dangos y bydd pysgodwyr yn sefyll ar hyd y mor i gyd,——" Yr efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy yr holl fyd."
Dywedir hefyd am rinweddau y dyfroedd, y byddant yn effeithiol i ffrwythloni a phrydferthu pa le bynag yr ant,—" Wele ar fin yr afon goed lawer iawn, o'r tu yma ac o'r tu acw. Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r deutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth a'i ffrwyth ni dderfydd yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd, oherwydd ei ddyfroedd a ddaethant allan o'r cysegr: am hyny —y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth." Nid yn unig bydd cadwedigion lawer iawn yn y lleoedd y bydd y dyfroedd hyn ynddynt, ond bydd y dyfroedd yn dylanwadu ar holl gylchoedd cymdeithas, o'r senedd—dai i lawr i'r cylchoedd iselaf. Gwelir heddyw nad oes sefydliadau dyngarol tebyg i rai ein gwlad ni. Mae yr efengyl yn adferu heddwch a rhyddid. A'r rheswm am y cwbl yw, fod Ysbryd Crist yn myned i bob man lle caffo yr efengyl dderbyniad.