Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tarddu o dan riniog y tŷ. Ond y mae y gwr a'r llinyn, yn mesur mil o gyfuddau, ac yn ei dywys trwy y dyfroedd, ac erbyn hyny yr oeddynt hyd y fferau. Mil wedi hyny a'r dyfroedd hyd y gliniau; a mil arall a'r dyfroedd hyd y lwynau. Ond wedi mesur drachefn, yr oedd y dyfroedd yn afon yr hon ni allai y proffwyd fyned trwyddi. "Canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi." Mae yr efengyl i lwyddo. Mae hyny wedi ei fwriadu yn y cyngor boreu, wedi ei ragfynegu yn y proffwydoliaethau, a'i bortreadu yn y cysgodau. Gan fod y ffynhonell yn ddihysbydd, mae yn rhaid iddi darddu; ac os tarddu, rhaid gorlenwi a llifo. Yr oedd hyn yn cael ei bortreadu yn brydferth iawn yn y môr tawdd oedd wedi ei osod ar ddeuddeg o ychain, y rhai oedd yn edrych tua phedwar ban y byd. Felly y gareg fechan a welodd Daniel, a dorwyd nid â llaw, a'r hon a dreiglodd ac a faluriodd y delwau, ac a aeth yn fynydd mawr, nes llenwi yr holl ddaear. Felly yr hedyn mwstard a'r surdoes.

O mor fychan a distadl oedd yr olwg ar Gristionogaeth, pan ddechreuodd yr apostolion anllythyrenog bregethu Iesu yn Arglwydd ac yn Grist. Nid oedd y dyfroedd i'w gweled ond yn ffrwd fechan iawn y pryd hwnw. A gellid meddwl y byddai i wres yr erledigaeth danllyd a gododd yr Iuddewon yn ei herbyn, ei sychu i fyny yn fuan, ac y byddai i'r gwrthgloddiau a gododd y Rhufeiniaid atal ei rhediad. Ond rhagddi yr aeth, nes y methodd holl nerth Rhufain baganaidd, mwy nag Iuddewiaeth, ei rhwystro, aeth yn ddyfroedd nofiadwy, y fath nad allai neb fyned trwyddynt.

III. EU HEFFEITHIAU.—Cyfeiriad y dyfroedd oedd tua bro y dwyrain, i'r Môr Marw, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn eu natur yn farwol i'r bob creadur, a'i gyffiniau yn difwyno pob prydferthwch. Ond y mae y proffwyd yn gweled y caiff y dyfroedd hyn effaith ryfeddol arno, er cyfnewid ansawdd ei ddyfroedd, a rhoddi bywyd i bob creadur a ddelai yn agos atynt. Rhyw fôr marw yw yr oll o'n byd ni wrth natur. Yn mro a chysgod angau y mae pawb yn gorwedd. Ond wele yr afon bur o ddwfr y bywyd, hen afon iach-