â'r deml, fel y mae y weledigaeth hon. Ac onid oedd hyny yn fantais fawr i roddi argraffiadau dyfnach ar ei feddwl, gan ei fod mor gyfarwydd âg adeiladaeth y deml, ac â threfn ei gwasanaeth? A diau genym fod ei gyfarwyddyd â'r deml, wedi bod yn fantais fawr iddo gymeryd i'w feddwl gynllun a mesurau y deml weledig aethol, y rhoddir ei hanes yn niwedd y llyfr hwn.
Yn y benod hon cawn weledigaeth y dyfroedd sanctaidd, y rhai y mae y proffwyd yn weled yn tarddu o dan riniog y tŷ. Mae dwfr ac afon yn arwyddluniau Beiblaidd am yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist. Mae yma dri pheth yn cael ei gyflwyno i'n sylw : I. TARDDIAD Y DYFROEDD— o dan riniog y tŷ," sef y deml yn Jerusalem, lle preswylfa y gogoniant dwyfol. Nid oes neb mor ynfyd a meddwl y bydd i'r olygfa yma gael ei chyflawni yn llythyrenol byth, ond yn ysbrydol. Crist yw Sylwedd y deml a'r gwasanaeth, ac felly y mae holl ddrychfeddyliau y cysgodau yn cael eu sylweddoli ynddo ef. Mae yn anhawdd peidio gwneyd hyny yma, a dilyn y dyfroedd at y tarddiad, yn yr hen feddyliau tragwyddol o hedd. Yr oedd y dyfroedd yn tarddu o dan yr allor, sef allor yr aberth, a'r allor oedd yn rhoddi rhinwedd iddynt. Daethant i olwg ein daear ni yn yr ymgnawdoliad, a'r dioddefiadau iawnol.
"Hi darddodd o'r nefoedd yn gyson,
Hi ffrydiodd ar Galfari fryn."
Y dyfroedd hyn yw yr "afon bur o ddwfr y bywyd" a welodd Ioan, "tarddu o dan orseddfainc Duw a'r Oen." Yr afon yw afon iachawdwriaeth, sydd i'w gweled yn yr Eglwys Gristionogol trwy yr oesoedd, a rhinwedd yr oll yn dyfod o Grist a'i aberth. Ond diau y gellir ystyried y tarddiad yma hefyd yn ddechreuad pregethu yr efengyl yn Jerusalem, ac oddiyno yn myned allan at y cenhedloedd. "Y gyfraith a ä allan, a gair yr Arglwydd o Jerusalem. Oddiwrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd," &c.
II. EU CYNYDD.—Mae yma ddisgrifiad prydferth iawn o gynydd y dyfroedd. Rhyw ffrwd fechan fain a welodd Ezeciel gyntaf, yn