Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ormod o grefydd, ai nid oes genym le i ofni fod ein crefydd ni yn rhy fach?

II. Y RHAI NAD YNT YN PROFFESU.— —Mae y geiriau yn awgrymu rhywbeth teilwng o sylw mwyaf difrifol y rhai hyn, y rhai sydd heb redeg dim eto gyda'r gwyr traed. Ceir y rhan fwyaf o honoch yn ymrwystro yn ngwyneb anhawsderau bychain, cariad at ryw chwant neu ofn cyflawni dyledswyddau crefydd. Onid gwell

fyddai i chwi ddechreu rhedeg yn ddioedi, tra y byddo bywyd ac iechyd yn cael eu mwynhau, nag ymesgusodi oblegid rhwystrau bychain. Dylit gofio ei bod yn fil gwell arnat na'r rhai a aeth ar ol Crist drwy yr ystormydd garwaf. Daw ymchwydd yr Iorddonen i dy stripio o'th holl feddianau, dy iechyd, a'th fywyd. Er mwyn cymhelliad digon cryf i wneyd dyledswydd gofyn, "Beth a wnei yn ymchwydd yr Iorddonen ?

PREGETH VIII.

DYFROEDD Y CYSEGR.

"Ac efe a'm dug i drachefn i ddrws y tŷ, ac wele ddwfr yn dyfod allan odditan riniog y tŷ tua'r dwyrain," &c. Ezec. xlvii. 1—12.

Un o'r proffwydi a godwyd gan Dduw i'r genedl Iuddewig, pan yn y caethiwed yn Babilon, oedd yr Ezeciel hwn. Yr oedd yn fab i offeiriad, ac wedi derbyn ei addysg fel Lefiad. Cafodd ei anrhydeddu â llawer iawn o weledigaethau arwyddluniol yn ngwlad ei alltudiaeth, ac y maent, gan mwyaf oll, yn dal rhyw berthynas