tuag at ddwyn ymlaen deyrnas Dduw yn y byd. Brydiau eraill, gelwir ar yr eglwys i weithio allan ei hegwyddorion, yn erbyn dylanwad a gallu gormesol cyfreithiau daearol, dioddef carcharau, a merthyrdod.
Meddylier yn awr am ddyledswyddau y dyddiau presenol. Oni cheir fod llawer yn cwyno oblegid anhawsderau bychain, ac yn eu cymeryd yn esgusodion dros eu hesgeulusdra. Gelwir sylw at grefydd deuluaidd, at ffyddlondeb i'r cyfamod eglwysig, at ymdrech cydwybodol, a sel weithgar gyda'r achos mawr yn ei holl ranau. Qnd ai nid oes esgeulusdra tra mawr? A phe ymofynid am y rheswm, cwyna rhai ar yr amgylchiadau, eraill ar wendid a blinder corff, eraill ar bellder y ffordd, eraill ar dywyllwch y nos, ac eraill ar wlybaniaeth yr hin.
Mae rhwystrau i deimlad cnawdol, hyd yn nod yn yr amser mwyaf hafaidd ar grefydd. Yn lle ymwroli i'w gorchfygu, tuedd i ymollwng a welir yn y rhan fwyaf. Ychydig a welir yn rhedeg yn deilwng i bwysigrwydd y gwirioneddau a broffesir ganddynt. Paham na byddai pob un yn ymresymu âg ef ei hun? Os yw yn anrhydedd i'w grefydd ef fy mod i yn gydwybodol gyda'm dyledswyddau personol, teuluaidd, a chymdeithasol, ni chaiff pethau bychain fy rhwystro i fod felly. Os ydyw ei deyrnas ef yn debyg o gael rhyw fantais i ymledu, trwy i mi wneyd a allaf er ei hyrwyddo mewn gweddio a chyfranu, dweyd a gwneyd, nid ychydig gaiff fy rhwystro i wneyd hyny. Dyna beth yw rhedeg, ac nid yw hyna ond rhedeg gyda'r gwyr traed. Ond O! gymaint o esgeulusdra, a chymaint o gwyno sydd gyda phethau digon hawdd lle byddo ewyllys. Beth yw ychydig o anhwyldeb corfforol ond methu rhedeg ? Beth yw achwyn ar bellder ffordd ond methu rhedeg? Meddylier am hen ffyddloniaid y Diwygiad Methodistaidd yn dyfod Langeitho. Beth pe gelwid arnom i redeg gydag "ardderchog lu y merthyri," megis Latimer, Cranmer, a Ridley, y rhai na "charasant eu heinioes hyd angau." Os nad oedd ganddynt hwy