Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydd pellaf. Yn y ceulenydd pellaf, y mae llawer o brysglwyni ac anialwch, yn y rhai y cartrefa lliaws o lewod, pan y byddo yr afon ar drai; ond pan lifo dros y glanau, gwna y rhai hyny ddianc o'u llochesau, nes cynyrchu llawer o ddychryn a niwed i'r trigolion. Felly y mae grym yn y gymhariaeth i osod allan allu anwrthwynebol lluoedd Babilon,—byddant mor anwrthwynebol ag ymchwydd yr Iorddonen.

Athrawiaeth y geiriau yw, "Os nad oes genym ddigon o nerth i ddal treialon bychain, mae sail i ofni na allwn ddal treialon mwy.' Neu, "Mae methu gorchfygu anhawsderau bychain yn brawf ein bod yn anghymwys i gyfarfod â rhai mwy." Os nad allwn ddal i gerdded gyda'r gwyr traed, nid yw ond ofer meddwl dal ati gyda'r gwyr meirch. Feallai mai nid anmhriodol cymhwyso athrawiaeth y geiriau at ddau ddosbarth o ddynion sydd yn yr odfa.

I. Y RHAI SYDD YN PROFFESU CREFYDD.

—Yr hyn sydd yn ffaith gyffredinol yn ein hanes ni blant dynion yw, ein bod yn agored i dreialon ac anhawsderau yn y fuchedd hon; ac y mae hyny yn wir am y rhai sydd yn proffesu eu hunain yn ganlynwyr i Fab Duw. Mae rhai o'r cyfryw wedi cael eu profi trwy redeg gyda'r gwyr meirch; a'r rhai a gawsant eu profi trwy rwystrau a phrofedigaethau mawrion oedd y cymeriadau goreu y cawn hanes am danynt yn oesoedd boreuaf y byd. Dyma y "cwmwl tystion" y rhoddir hanes eu gorchestion yn Hebreaid xi., rhedasant hwy gyda'r gwyr meirch heb flino. A dyma y fath rai oedd y dyrfa waredol a welodd Ioan yn sefyll gyda'r Oen ar fynydd Seion,—" rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr." A beth yw yr hyn y gelwir ni i'w wneyd, at yr hyn y gorfu arnynt hwy ei wneyd.

Mae yn perthyn i grefydd eto ddyledswyddau sydd yn gofyn am ymdrech i'w cyflawni. Ond y mae amrywiaeth y dyledswyddau yn cael ei nodweddu gan amrywiaeth tymhorau ar grefydd. Bu rhai adegau yn hanes yr eglwys pan oedd yn haf llwyddianus a thawel, ac mae adegau felly eto. A'r pryd hwnw, gelwir ar yr eglwys i weithio; a'r gwaith ydyw, aberthu ychydig o amser a meddianau