Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Felly y gwelir Jeremiah yma, yn disgyn i le peryglus, sef i ymddadleu â Duw ynghylch llwyddiant yr annuwiol, "Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffyna yr anffyddloniaid oll?" Ond cyn myned i lawr i'r dyryswch, yr oedd wedi cylymu ei hunan am golofn cyfiawnder dwyfol, "Cyfiawn wyt ti, O Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi; er hyny ymrysonaf â thi am dy farnedigaethau." Methu cysoni llwyddiant y drygionus âg uniondeb Rhagluniaeth yr oedd, ac yn troi at Dduw am eglurhad. Yn atebiad i'w ddadl, llefara yr Arglwydd eiriau y testyn. Mae yn debyg mai dwy ddiareb ydyw y testyn, yn cael eu defnyddio er gosod allan anhawsderau bychain ac anhawsderau mwy.

Mae yn debyg fod preswylwyr Anathoth yn rhai drygionus iawn, a'u bod yn erlid Jeremiah oblegid ei fywyd sanctaidd, a'i broffwydoliaethau bygythiol; a meddylia rhai mai ystyr dihareb adnod y testyn i'r proffwyd yw, Os yw ymddygiadau dy gyfoedion marwol yn dy flino yn gymaint, pa fodd y gelli blymio i ddyfnderoedd barnedigaethau y Duw anfeidrol ddoeth? Eraill a feddyliant mai yr ymresymiad yw, Os yw erlidiau a bygythion dy gydwladwyr yn dy flino mor fawr, pa fodd yr ymdarewi wrth wynebu byddinoedd cedyrn y Caldeaid sydd yn dyfod i'r wlad? Nid oedd y rhai cyntaf ond "gwyr traed," o'u cymharu a lluoedd Babilon. Gallai mai y "gwyr meirch" yw gwyr mawr Jerusalem, y rhai y byddai yn sefyll o'u blaen yn fuan, o'u cymharu â gwyr Anathoth; ac nad oedd y dref hon, er ei holl ddrygioni, ond "tir heddychlon," wrth ei chymharu â Jerusalem, lle yr oedd "ymchwydd yr Iorddonen " yn bod, ac i fod eto yn llawer mwy, trwy ddyfodiad lluoedd y Caldeaid.

Afon nodedig yw yr Iorddonen, prif afon, ac afon derfyn gwlad Canaan. Mae yn tarddu yn mynyddoedd Libanus, ac a red oddiyno am 160 milltir, hyd y Môr Marw. Mae iddi ddau wely, neu geulenydd dwbl. Yn misoedd Mawrth ac Ebrill, bydd yr eira yn toddi ar fynyddoedd Libanus a Hebron, nes chwyddo yr afon yn aruthrol, pan y bydd y gwely isaf yn cael ei orlifo hyd at y ceulen-