iadau yn dechreu oedd bod rhai yn dyfod yn ddistaw ac o'u bodd i ardystio yr ymrwymiad dirwestol; arwydd arall oedd eu bod yn anfon rhyw gymaint yn fisol at gynal y weinidogaeth; ac arwydd arall oedd fod llawer yn tori y qupee. Byddai llawer o siarad am rai yn awr eu bod yn sicr o ddyfod i'r seiat, am fod yr arwyddion yna i'w gweled arnynt, ac yn ddieithriad felly y byddai, rhai wedi darfod am danynt yn y tir pell oeddynt, ac eisiau ymwasgu at y disgyblion. Daeth llawer at grefydd yn 1850, oud tua chalanmai 1851, y bu y cynhyrfiad gryfaf. Daeth amryw o lanciau o 15 i 17 oed i'r eglwys, a dechreuasant dyru at eu gilydd ar awr hwyrol i gadw cyfarfodydd gweddiau. Aeth son am hyny allan, a daeth lliaws ynghyd at y capel i'w clywed. Wedi i'r cwrdd gweddi bach," fel ei gelwid, gael ei aflonyddu fel hyn, cymerai y bechgyn ofal na ymgasglent ynghyd nes i'r bobl fyned i'w gwelyau. Ond ryw noson disgynodd rhyw awel nerthol ar y rhai oedd oddifewn, nes y daeth lliaws i fewn atynt, gan gael eu synu yn fawr wrth weled y fath gymeriadau oedd wrth y gwaith.
Pa fodd bynag, parodd y cyhoeddusrwydd hwn i'r bobl ieuainc roddi fyny y cyfarfodydd am rai nosweithiau. Ond ymhen ychydig dechreuwyd hwynt eilwaith, a hyny ar awr fwy hwyrol. Ni bu eu hymgais ond ofer, gan fod y bobl yn loitran o gwmpas i'w gwylio; a phan ddygid y newydd eu bod wedi myned i'r capel, byddai yr ugeiniau, weithiau ganoedd, yn myned ar eu hol nes y byddai y lle yn orlawn. Yr oedd rhyw eneiniad rhyfedd ar y gweddïwyr ieuainc; a