Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byddai y fath fwynhad mewn ambell gyfarfod, fel mai toriad gwawr y bore fyddai yr achos i'w roddi i fyny. Byddai y mwnwyr a adawent y gwaith am 10 y nos yn prysuro yno i gael rhan cyn yr ymadawent. Yr oedd graddau o ragfarn yn erbyn y bobl ieuaino, gan feddwl eu bod yn hyfion iawn, ac nid oeddwn i fy hun heb deimlo peth o'r fever, ond pan ddywedid "Tyred a gwel," cael ein hunain ymysg y proffwydi fyddai y canlyniad. Ni pharhaodd y gwynt nerthol ond am ychydig fisoedd; ond yr oedd y llef ddistaw fain wedi cyraedd llawer o galonau, fel y daethant yn ddau ac yn dri i'r eglwys ar ol hyn, fel y cafodd yr eglwys adgyfnerthiad mawr, trwy gael llawer o wragedd o brofiad gwir grefyddol, a brodyr lawer oeddynt dywysogion mewn gweddi. A da oedd hyn ar y pryd, gan fod bylchau lawer wedi eu gwneyd y blynyddoedd blaenorol, trwy ymadawiad llawer o deuluoedd i America, ac yn eu plith y blaenor a'r canwr Thomas Oliver. Ymadawodd llawer hefyd i weithfeydd y Deheudir. Bu feirw llawer o'r hen bobl dda, ac yn eu plith y ddau hen flaenor Isaac James a John Oliver. Yn y cyfamser hefyd, symudodd Mr. David Jones, yr hwn oedd flaenor yn Llanilar, i Llaneithir i fyw, a chymeradwyodd yr eglwys yma ei fod i barhau yn ei swydd. Yr oedd yma fintai dda o flaenoriaid eto, fel nad oedd raid pryderu am bregethwr i gadw seiat-byddai David Jones yn agor y cyfarfod yn fyr ac i bwrpas, yna yn galw am rai i ddweyd eu profiad. Yna codai David Davies i athrawiaethu yn fedrus, ac adrodd rhai o sylwadau yr hen Buritaniaid, a'r rhai hyny bob amser yn ffitio fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." Tueddai weithiau i fod yn rough wrth ambell un, ac weithiau yn gynhyrfus; ond pan fyddai felly, codai Mr. William Burrell i fyny, gan dywallt olew a gwin yn y briwiau. Ac os byddai Mr. Thomas Howells yn bresenol, aroglai larieidd-dra drwy yr holl le.

Tua dechreu y diwygiad, yn 1850, cymerodd amgylchiad le a deif oleuni ar ansawdd y byd a'r eglwys ar y pryd. Yr amser hwnw daeth rhyw nifer o lanciau o Fynwy a Morganwg drosodd yma, ac ni ddarfu i'w dyfodiad ychwanegu dim at foesoldeb y lle.