Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwnaethant godi seindorf bres (brass band) o'r bechgyn gwaethaf yn yr ardal. Wedi dyfod yn fedrus, deallwyd eu bod wedi trefnu cynulliad lliosog mewn tafarndy o'r enw Tyllwyd; math o ball a dance oedd i fod, ac i fod ar nos hen Nadolig, sef Ionawr 6ed, 1851. Teimlai yr eglwys yn ddwys, gan yr ystyriai y byddai y cyfarfod yn effeithiol i gynydd llygredigaeth yr ardal, a gwneyd bwlch mawr yn rhengau y dirwestwyr. Yn y teimlad hwnw cynlluniodd yr eglwys hithau gyfarfodydd gweddiau i fod yr un noson, un yn y Cwm a'r llall yn Penybryn. Pan ddaeth y noswaith, gwelid nad oedd pryder y brodyr heb sail-heidiai y llanciau o 12 i 18 oed tua'r tafarndy yn gynar, a llawer hefyd o rai hynach. Cynullodd yr eglwys hithau i'r ddau le a nodwyd, ac nis gall y rhai oedd yno byth anghofio y nerth a deimlid gyda'r brodyr oedd yn cyfarch yr orsedd. Dadleuent gyda thaerni ac awdurdod am i Dduw atal rhwysg annuwioldeb oedd yn cymeryd lle yn y gymydogaeth. Dadleuent yn gryfach gan fod had yr eglwys yn brif golofnau yn y cyfarfod llygredig. Yr oedd rhyw nerth gorchfygol gyda gwaith brawd yn y Cwm ar ddiwedd y cyfarfod, yn gofyn am ataliad y rhwysg annuwiol, pan ddywedodd, "Ië, gosod, Arglwydd, ofn arnynt, fel y gwybyddont mai dynion ydynt." Mae yn rhyfedd i'r brawd oedd yn diweddu y cyfarfod yn Penybryn ddefnyddio yr un geiriau, gyda'r un dylanwad. Dyna ochr crefydd. Cymerodd ffeithiau rhyfedd le yn y cyfarfod llawen bron yr un pryd, os nad i'r fynyd. Pan oedd y seindorf yn barod i'w gwaith hwy, ac eraill yn barod at y dance, a'r ty yn orlawn, a llawer yn barod i wrando, dyna swn gwynt nerthol yn dyfod ar unwaith, ac yn taflu yr holl ddrysau yn agored. Yna daeth gwaedd fod merch hynaf y ty mewn llewyg (bu farw mewn dau fis wedi cystudd difrifol). Rhoddwyd terfyn mewn mynydyn ar yr oll o'r chwareu. Rhedodd y llanciau ieuaine allan mewn dychryn; ac er mawr syndod, yr oeddynt wedi cyraedd y Pentref, 3 milldir o bellder, erbyn bod y bobl yn dyfod allan o'r capel. Yr oedd hamdden yn y capel, a dychryn a brys yn y cwmni llawen. Clywais frawd credadwy yn