Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dweyd, yn mlynyddoedd olaf ei oes, ei fod ef yn y cyfarfod llawen, a'i fod wedi gweled a chlywed pethau mor rhyfedd nes gwneyd i'w wallt sefyll ar ei ben, ac i'w chwys ddiferu yn gyflym i lawr.

Wedi yr adfywiad a nodwyd, barnodd yr eglwys mai buddiol fyddai ychwanegu at y blaenoriaid. Ebrill 8fed, 1853, daeth y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, a Thomas Edwards, Penllwyn, yma i'r gorchwyl, a syrthiodd y goelbren ar Mri. John Howells, Galmast; John Davies, Cnwcbarcut, a minau. Ni oedd y bedwaredd set o flaenoriaid. Yr ydym wedi nodi y cyntaf a ddewiswyd yn rheolaidd. David Davies a Thomas Oliver oedd yr ail; a William Burrell a Thomas Howells, Tygwyn, oedd y drydedd. Y pryd hwn y daeth David Jones, Llaneithir, a bu yma nes y codwyd capel Mynach, pryd yr aeth yno. Y 5ed set oedd Mri. John Howells, Blaenmilwyn, a Morgan Morgans, Tynewydd, yr hwn sydd eto yn aros. Y 6ed oedd Mri. Lewis Oliver, Penygraig; John Thomas, Ysguborfach, a Charles Burrell, Pencnwch, y tri wedi marw. Yr oedd John Thomas yn dad i'r ddau bregethwr, y Parchn. John Thomas, Gosen, a Lewis Thomas, a fu farw yn ieuanc. Y 7fed yw, Mri. Abraham Oliver; Shop; William Howells, Cwmglas, a John Davies, Ty'r Capel.

Ond i ddychwelyd. Wedi cael y fath adfywiad, naturiol oedd disgwyl mai nid mwynhau a gwledda oedd i fod yn barhaus. Yr oedd yma waith i gael ei wneyd. Un peth oedd symud y ddyled oedd ar yr hen gapel, y llall oedd cael tŷ capel newydd teilwng o'r achos, a darparu i roddi cydnabyddiaeth well am y weinidogaeth. Gwnaed yr olaf, a bu yn fendith i'r eglwys, gan y byddai yr hen frawd David Jones yn llwyddo i gael goreuon y sir yma i bregethu. Mewn rhyw gyfarfod, wedi bod yn edrych dros amgylchiadau yr achos, rhoddwyd ar Mr. Lewis Oliver a minau fyned i dalu 2p. o log oedd ar y 40p. dyled oedd ar y capel, i Mr. Thomas Edwards, Lluestdedwydd. Ac wrth dori yr interest ar gefn y note, gwelwyd ein bod wedi talu 40p. o log ar y 40p. Wrth ddyfod adref, darfu i ni siarad am yr afresymoldeb o dalu arian mor afreidiol. Pen-