Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draul o 160p. Llwyddwyd i gasglu digon at hwn eto hyd at 20p., y rhai sydd yn aros hyd heddyw. Agorwyd ef Hydref 1, 1856, pan y pregethodd y Parchn. Edward Jones, Aberystwyth; Thomas Edwards, Penllwyn; Daniel Jones, Rhaiadr, a Lewis Davies, Llanwrtyd, y rhai sydd oll wedi meirw. Yr oedd gwedd lewyrchus ar yr achos yma pan gychwynodd. Dewiswyd pedwar yn flaenoriaid, sef Mri. Moses James, Esgairwen; Thomas Davies, Blaencwm; Benjamin Jonathan, Tymawr, a William Howells, yr Arddlas. Bu y tri olaf farw yn ystod yr un dwy flynedd, a Moses James heb fod yn faith ar eu hol. Collodd y fechan lawer o frodyr a chwiorydd eraill hefyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd. Cafodd yr eglwys adfywiad grymus yn 1858 a 1859, pryd y cipiwyd rhai cymeriadau rhyfedd o'r gyneuedig dân. Wedi marw y brodyr uchod, dewiswyd Mr. Richard Howells, Cwmdu, yn flaenor. Ond byr fu ei ddyddiau yntau i wasanaethu ei swydd. Yna dewiswyd Mri. John Howells, Dolbwle, a John B. Morgans, Penybryn, yn flaenoriaid.

Nodaf yma un engraifft mewn cysylltiad â'r cynllun doeth o gadw mis, i ofalu am y pregethwyr. Y cynllun o'r dechreuad yw cymeryd cynifer o ewyllysgaryddion at hyny ag a geid, ac yr oedd y rhai hyny yn lliaws, a hyny dan amgylchiadau pur anffafriol yn fynych. Mewn ffermdy o'r enw Dolyrychcefnog, yr oedd un o'r enw John Jenkins, yn byw, sef taid y diweddar Barch. Joseph Jenkins, Ph.D., Llanfairmuallt. Adnabyddid ef a'i briod mewn siarad cyffredin dan yr enwau Jack Shencyn a Bety. Yr oedd y ddau yn grefyddol iawn, ac yn llawn teimlad caredig at yr achos. Darfu iddynt fagu amryw o blant, a hyny pan yn gyfyng arnynt yn aml. Ar y pryd yr oeddynt i gadw mis, nid oedd ganddynt unwaith ond un fuwch, ac yntau fel miner wedi bod yn anffodus er's talm o amser, fel nad oedd ganddynt ddim i brynu y pethau angenrheidiol at y mis. Yr oeddynt yn bryderus iawn, a methasant gysgu un noswaith drwy y nos wrth feddwl beth a wnaent. Ar ol codi boreu dranoeth, beth welsant ond yr unig fuwch oedd ganddynt