Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi treiglo dros graig beryglus oedd yn ymyl, ac wedi trengú yn y fan. Aeth y gwr a'r croen i Lanidloes i'w werthu, a phrynodd ei werth o'r pethau angenrheidiol at gadw y mis. Agorodd ffawd drysorau y mynydd iddo, fel yr oedd ganddo, gyda chynal teulu a chadw mis, ddigon wedi enill i brynu tair neu bedair o wartheg blithion cyn pen tri mis. Ffaith arall mewn cysylltiad â'r un teulu yw y ganlynol:-Ryw dro, pan oedd Jack a Bety yn cadw mis, digwyddodd i gyhoeddiad Mr. Richards, Tregaron, fod yn y Cwm, pan oedd ar ei ffordd i Rhaiadr, lle y byddai arferol o fyned. Nid oedd modd na chyfleusdra i gael darpariaeth briodol iddo dranoeth i ginio. Yr oedd gofid bron llethu Bety. Ond rhyfedd yw cariad am ddyfeisio. Dywedodd wrth Thomas, tad y Parch. J. Jenkins, ei mab hynaf, yr hwn oedd yn arfer bod yn ffodus am bysgota, am iddo dreio dal ychydig bysgod, gan obeithio y byddent yn boddloni Mr. Richards. Aeth yn y fan at lyn y Fyrdden, lle yr arferai ddal. Ond y tro hwn nid oedd un pysgodyn yn gwneyd attempt at yr abwyd o gwbl. Gorfu arno ymadael heb ddal yr un. Wylodd yn hidl wrth feddwl am deimlad ei fam, ac yntau ei hun yn meddwl y llwyddai yn awr yn anad un amser, gan fod ganddo y fath amcan. Ond wedi dyfod ryw gan' llath oddiwrth y llyn, cododd hwyaden wyllt o'i flaen, a gollyngodd yntau y line bysgota yn ei hyd ar ei hol, a rywfodd aeth am wddf y creadur fel y daliodd hi, er ei fawr lawenydd. Darparwyd hi i giniaw, a dywedai Mr. Richards na chafodd erioed bryd mwy blasus.

Ond i ddychwelyd eto at agwedd ysbrydol yr achos ar ol diwygiad 1850-1851. Profwyd nad oedd yr had oll wedi cael tir da, canys gwrthgiliodd rhai o'r llanciau trwy gellwair âg arferion sydd yn cwympo cedyrn. Yr oedd yr eglwys hefyd wedi gwrthgilio, fel erbyn 1855, ychydig fyddai yn cyrchu i'r moddion wythnosol. Ond nid oedd y gelyn yn hepian, gan fod annuwioldeb ar gynydd dirfawr. Cofus gan yr ysgrifenydd ei fod yn myned adref o gyfarfod gweddi, yn yr hwn nid oedd ond ychydig ynghyd. Ymddiddanai Mri. John Morgans, Ty'nrhyd; John Davies, Cnwcybarcut;