Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a minau, ynghylch iselder crefydd ac annuwioldeb y gymydogaeth, ac nad oedd a wnai y tro heb gael yr Ysbryd i weithio, fod Iesu Grist wedi dweyd "Os mi a af mi a'i hanfonaf ef atoch." "Os cydsynia dau o honoch am ddim oll efe a wneir i chwi." Yr oedd yr ymddiddan yn hyfryd, a braidd na ddywedwn fod yr hyn a deimlwyd ar y ffordd i Emmaus yn cael ei deimlo hefyd genym ninau. Methwyd ag ymadael yn hir, a chyn gwneyd hyny, aethom i gyfamod â'n gilydd i geisio yr Arglwydd o ddifrif. Pan gyfarfu y brodyr yr wythnos ganlynol, yr oedd arwyddion fod yr Arglwydd yn eu plith. Ar y pryd daeth Mr. Thomas Probert, a'r Parch. Ebenezer Williams, Sir Frycheiniog, heibio wrth ddyfod o Gymanfa y Gogledd. Cymerodd yr olaf Mal. iii. 16 yn destyn. Yr oedd eneiniad ar y bregeth. Ac wrth fyned ymlaen, disgrifiai yr ymddiddan oedd rhwng pobl Dduw wrth feddwl am ei enw, bron yn y geiriau a arferwyd genym ninau y dyddiau cyn hyny. Yn y diwedd, dywedodd y pregethwr, "Yr wyf yn methu rhoddi fyny, mae yma rywbeth i fod mhobol i.” Darfu i'r bregeth chwanegu yn fawr at ein hyder. Y Sabbath canlynol, pan fethodd rhyw bregethwr ddyfod at ei gyhoeddiad, yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a galwyd ar y brawd John Davies, a enwyd o'r blaen, i ddechreu y cyfarfod. Darllenai y benod gan sychu ei ddagrau yn fynych; a phan yn gweddio, hawdd oedd deall ei fod, fel Jacob, yn dweyd, "Ni'th ollyngaf oni'm bendithi." Yr oedd eraill yr un deimlad âg ef, fel y teimlid mor hyderus am ddiwygiad a phe byddem wedi ei gael. Gwelwyd yn fuan fod yr ansawdd grefyddol wedi newid, a bod y lliaws digrefydd dan ddylanwad argyhoeddiad. Nid oedd yn arferiad y pryd hwnw i gyhoeddi cyfarfod eglwysig ar ol yr odfa, na rhoddi anerchiadau, er mwyn enill rhai digrefydd i aros ar ol. Nis gwn a oedd hyn yn fai yn y tadau anwyl. A phriodol crybwyll yn y fan yma, nad oeddynt yn rhyw daer iawn chwaith wrth anog had yr eglwys i ddyfod i gymundeb, heb arwyddion digonol fod trallod am eu pechod yn eu meddianu. Tueddent yn fwy at gael ymweliadau diwygiadol i wneyd y cwbl, a dwysbigo y bobl.