amddifadrwydd ef ei hun o hono, fel yr oedd dan angenrheidrwydd i ymddiried llawer mwy nag a ddylasai i eraill o'r herwydd. Ac i'r perwyl hyny, cefais i fy anfon i'r ysgol yn ieuanc iawn, a hyny yn llaw fy chwaer Sarah, yr hon oedd bedair blynedd yn henach na mi. Cefais bob caredigrwydd gan fy meistr, sef Mr. Thomas Jones, yr Arch; oblegid nid oedd neb yn agos mor fychan ac ieuanc a mi yn yr holl ysgol. Ond ni bum ond ychydig amser cyn cael fy hun yn y first class. Yr oeddwn mor fychan mewn cymhariaeth i eraill oedd ynddo, fel yr oeddwn yn destyn sylw a chwerthin iddynt oll. A chredaf fod y meibion a'r merched oedd gymaint arall a mi o ran oedran a maint, yn hollol foddlon i mi fod yno. Oblegid gwn fod ambell un weithiau yn gwneyd mistake mewn darllen, neu sillebu, er mwyn i mi eu correcto, ac felly gael y pleser o fy ngweled yn myned o'u blaen. Ac y mae yn gofus genyf i mi gael fy hun yn first yn y first class ryw ddiwrnod, pan nad oeddwn ond rhyw damaid bychan iawn, nes yr oeddwn yn destyn chwerthin i'r holl ysgol, a fy meistr yn fy nghanmol, nes yr oeddwn yn llawn o falchder. Nis gwn pa un ai oddiar deilyngdod ai er difyrwch y bu hyny. Ond gwn hyn, mai o deilyngdod y bu hyny byth wedi hyny, neu i mi fod hebddo o gwbl. Ac yr wyf yn meddwl byth fod cael y lle blaenaf felly pan yn fychan, wedi bod yn foddion i gadw fy llygad ar y safle hono trwy holl adeg fy ysgolheigdod; a gallaf ddweyd na fethais fawr yn hyny. Nid oeddwn yn foddlon i fod yn third nac yn second, a thrwy ymdrech a dyfalbarhad, ni bu raid i mi fod. Un peth i rwystro cynydd mewn dysg y pryd hwnw oedd, na byddai yr ysgol yn cael ei chadw ond am ddau chwarter yn y gauaf.
Pan gyfodwyd ysgol gan Sais o Kent, o'r enw William Fowl, yn y gymydogaeth, drwy appwyntiad y Duke of Newcastle, cefais beth mantais i gynyddu mewn addysg, erbyn fy mod o 12eg i 14eg oed. Ond nid oedd yr ysgol hon ond un digon cyffredin wrth yr hyn a ddylasai fod. Yr oedd hefyd yn hynod o Eglwysyddol. Yr oedd yn rhaid myned trwy ffurf o weddiau foreu a hwyr, a dysgu llawer