Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn o gatecismau. Treulid llawer o amser yr ysgol i ddysgu ac adrodd y rhai hyny. A'r peth oedd fwyaf gwrthwynebol o bob peth i mi, oedd yr orfodaeth i fyned i eglwys y plwyf ar y Sabbath; a phwy bynag a esgeulusai fyned yno, pa un bynag ai gwlyb ai sych, oer neu deg, fyddai y tywydd, byddai yn sicr o gael ei alw i gyfrif a'i gosbi. Ac ni chosbid am unrhyw drosedd mor greulon ag am beidio myned i'r eglwys ar y Sabbath. Bum bron a cholli dagrau lawer gwaith oherwydd y gorthrwm anynol hwn, ond rhaid oedd iddo fod.

Wedi i mi ddyfod i deimlo awydd i ddysgu o ddifrif, yr oedd yn rhaid fy nghadw gartref yn misoedd y gwanwyn a'r haf, i edrych ar ol y defaid a'r wyn bach, a'u settlo ar y mynydd. Parai eiddigedd mawr ynof weled fy nghyfoedion, gan mwyaf, yn cael bod yn yr ysgol trwy y flwyddyn, a minau yn gorfod bod ar y mynydd. Ond yr oedd fy eiddigedd yn gymaint, fel nad arbedwn ddim llafur nes dyfod i fyny â'r penaf o honynt erbyn canol y gauaf. Mae arnaf ofid wrth edrych yn ol ar yr amser hwnw, a gweled mor ychydig o home lessons a roddid i mi, ac felly fethu cyrhaedd tir uwch o lawer mewn dysg. Yr oedd fy awydd am chwareu hefyd yn fawr, ac am ragori yn hyny; ac o bob chwareu, cicio y bel droed. oedd a mwyaf o swyn ynddo i mi. A chymaint oedd fy egni gyda hyn fel yr aethum yn ddiareb yn y gymydogaeth o'i blegid. Ac odid fawr, pan y byddid yn tynu match, na chawn fy ngalw yn un o'r rhai cyntaf, hyd yn nod pan y byddai rhai llawer mwy eu maint a hynach na mi yn bresenol. A pharai yr ystyriaeth yna i mi fod yn egniol dros fy ochr, ac anaml y byddai fy ochr yn colli, fel yr ystyriai fy nghyfeillion fod ffawd yn fy ffafr. Maddeuer i mi am. gofnodi pethau plentynaidd fel yma.

Pan o 14eg i 15eg oed, nis gallai fy rhieni fforddio rhoddi ychwaneg o ysgol i mi, oherwydd fod eu hamgylchiadau yn cymylu yn gyflym, ac felly gorfu i mi roddi fyny. Yn y cyfamser, cof genyf fod cymydog hynaws i ni yn dyfod at fy nhad, ac yn cynyg benthyg arian iddo, i mi gael myned i ysgol yn Lloegr. Mr.