Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Thomas, Pentre Brunant, oedd y person caredig gynygiodd yr arian a hyny heb eu ceisio. Bu fy rhieni a minau yn petruso yn fawr beth i wneyd o'r cynyg, ond yr oedd yn anhawdd iawn iddynt hwy fy hebgor, a theimlwn inau yn hwyrfrydig iawn i dderbyn y cynyg, oblegid y rhesymau canlynol:—Yr oeddwn yn teimlo cryn an wyldeb at grefydd ar y pryd, ac hefyd at y Methodistiaid, ac yn penderfynu ceisio duwioldeb rywbryd ; ac ofnwn yn fawr os awn i rywle i Loegr, na byddwn yn debyg o gael crefydd dda. Yr oedd lle neillduedig fel Cwmystwyth wedi bod yn anfanteisiol iawn i mi, fel llawer eraill a anwyd ag a fagwyd yno, i wybod nemawr am y byd o amgylch, yn ei arferion na'i grefydd. Nid oedd ynddo ond dau enwad crefyddol, sef y Methodistiaid ac Eglwys Loegr; ac yr oeddwn bron wedi myned i synied nad oedd dim crefydd dda ond gan y cyntaf. Yr oeddwn wedi cael lle i feddwl felly oblegid y gwahaniaeth mawr oedd y pryd hwnw rhwng y ddwy blaid. Am y rhai oedd yn grefyddol o'r Methodistiaid, yr oeddynt i gyd yn cymeryd crefydd i fyny yn ei holl ddyledswyddau; a bron i gyd yn gyfryw ag yr oedd arnaf ofn dweyd na gwneyd dim anweddus yn eu presenoldeb. Edrychwn arnynt oll fel angylion, yn enwedig eu pregethwyr. Ond am gynifer ag a adwaenwn o aelodau Eglwys Loegr, nid oeddynt yn gofyn bendith ar eu bwyd, nac yn cadw dyledswydd deuluaidd; ond gan mwyaf yn arfer iaith anweddus. Modd bynag, nid oeddynt ond ychydig o nifer. Ac am Ygol Sabbothol, cyfarfod gweddi, a seiat, nid oeddynt wedi cael bodolaeth yn eu plith yr amser hwnw. Yr oedd y gwahaniaeth dirfawr yna wedi cael argraff ddofn ar fy meddwl ieuanc, fel y credwn na byddai cystal cyfleusdra i mi am dduwioldeb, os awn oddicartref i un o drefi mawrion Lloegr. Rhyfedd mor blentynaidd oeddwn; ond barned pawb fel y mynont. Modd bynag, hyny yn benaf a barodd i mi aros gartref gyda fy rhieni, i ymladd å ffawd ac anffawd fel y deuent, a bod heb ychwaneg o ysgol.