Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD III.

Argraffiadau Crefyddol.

MYNED I'R SEIAT GYDA'I FAM—TEMTASIYNAU YN DECHREU—DAL YN DDIRWESTWR—ODFA HYNOD—OFN GWEDDIO YN GYHOEDDUS—GWELED DERBYN UN I'R SEIAT—BLYNYDDOEDD O WRTHGILIAD.

PAN oeddwn tuag 16eg oed, teimlais ryw ddwysder crefyddol yn fy meddwl. Yr oedd fy rhieni yn gwneyd mwy o ymdrech i fyned a mi i'r seiat, na neb arall yn y gymydogaeth. Byddai fy mam yn myned a mi i'r seiat dan ei chlogyn, pan nad oeddwn ond ieuanc iawn, ac yn dweyd rhywbeth wrthyf am Iesu Grist yn aml. Ond fel yr oeddwn yn tyfu i fyny, yr oedd arnaf braidd gywilydd myned, gan na chawn gwmni neb o'm cyfoedion yn y fath gyfarfod. Yn fynych iawn gwnawn ryw esgusodion dros beidio myned, ac os gallwn gael cyfleusdra, absenolwn fy hun ar yr amser i fyned yno. Ac ar y pryd, teimlwn fod cymdeithas fy nghyfeillion yn dechreu fy ngwaethygu yn fawr, ac felly finau yn eu gwaethygu hwythau. Ond mewn un peth, ïe, yn wir, mewn dau beth, ni allent, er treio o ddifrif, fy nghael i gydymffurfio â hwy, sef tori yr ardystiad dirwestol ac ymarfer â tobacco. Ac yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar hyd heddyw am y nerth a gefais i orchfygu, nes gwneyd eu holl ymdrechion yn ofer. Yr wyf wedi cael nerth i fod yn ddirwestwr trwyadl bellach er's 48 mlynedd, ac hefyd wedi ymgadw dros fy holl oes oddiwrth yr arferiad afraid arall.

Pan oeddwn tuag 16eg oed, yr oedd yma adfywiad dymunol ar grefydd, a llawer yn gofyn y ffordd i Seion. A ryw nos Sabbath, pan oedd y brawd talentog, Mr. David Davies, Nantcwta, wedi bod