am dano. Gwnawn ymdrech i nesau at grefyddwyr wrth fyned a dyfod gyda'm gwaith, i edrych a ddywedent ryw air wrthyf, ac i minau wed'yn gael adrodd fy nhywydd; ond fy siomi gefais yn ddieithriad. Credwn nad oeddynt yn meddwl fod ynof fi yr un duedd at grefydd. Bu cofio am fy nhrallod personol y pryd hwnw ac esgeulusdra crefyddwyr yn fy nghylch, yn symbyliad da i mi i dori at lawer yn ystod fy ngyrfa grefyddol, a chefais amryw hefyd yn yr un tywydd ag y bum inau ynddo.
Modd bynag, cario fy maich yr oeddwn i heb yngan gair wrth neb, na neb yn yngan gair wrthyf finau, am grefydd, na phechadur, na Cheidwad. Yr oeddwn yn gweithio ar y pryd gyda brawd crefyddol, a diau genyf ei fod yn ymbalfalu rhywbeth yn ei feddwl ynghylch fy nistawrwydd pruddaidd yr wythnosau hyn. Ond ryw brydnawn, aeth fy maich yn rhy drwm i'w gario yn mhellach, mynegais yr oll iddo, a rhyfedd fel y llawenychodd. Yn ganlynol, cefais fy nghyfarwyddo a'm diddanu ganddo, fel mamaeth dirion yn diddanu y plentyn. Yn y cyfamser, yr oedd fy rhieni yn gwneyd i mi ddarllen penod hwyr a boreu ar y ddyledswydd, pan y byddwn yn bresenol. A rhyw noson, ar ol darllen y benod, dywedasant wrthyf yn benderfynol am fyned i weddi hefyd. Teimlwn bwysau y greadigaeth yn dyfod ar fy mhen gyda'r gorchymyn. Diffoddwyd y ganwyll; a chan mor ddisymwth y daeth y peth arnaf, ni chefais amser i ymgynghori â chig a gwaed, aethum ar fy nglinau, a thrwy y gwasanaeth, ac nis gwn eto pa fodd. Ond wedi fy myned i'r gwely, cofiais y byddai fy nhad yn myned oddicartref yn blygeiniol iawn dranoeth; a chan nad oedd y ddyledswydd byth yn cael ei hesgeuluso, os byddai fy nhad gartref, gwyddwn y byddai fy mam yn gosod arnaf yr angenrhaid hwn; a dechreuais grynu gan ofn y byddai i rywrai ddyfod i'r siop ar y pryd, a gwrando arnaf. Ac wedi cael y boreufwyd, wele fy mam yn dyfod a'r Beibl i'r bwrdd, ac yn cloi y drws, fel na byddai i mi gael fy aflonyddu gan neb dynion; a chan nad oedd neb arall o'r teulu yn bresenol, teimlais dipyn o hamdden i fyned at y ddyled-