Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

swydd. A chefais ychydig o bleser hefyd y boreu hwnw wrth ledu fy achos gerbron Duw fel pechadur.

Aeth y si trwy y gymydogaeth fy mod yn myned i'r seiat yr wythnos ganlynol. Ond yr oeddwn i yn pryderu yn fawr beth a wnawn, oblegid yr oeddwn ar y pryd mewn cyfeillach â merch ieuanc, yr hon oedd yn ddigrefydd, ac wedi myned yn rhy bell i dynu yn ol, yr hyn na ewyllysiwn chwaith. A gwyddwn fod llinyn yr hen flaenoriaid mor dyned ag oedd bosibl gyda hyn, fel pob peth arall, yn yr amser hwnw. Ond trwy fod lliaws o frodyr yn fy anog mor daer, a minau yn methu cael tawelwch, i'r cyfarfod eglwysig yr aethum. A nos Sadwrn y cynhelid y cyfarfod hwn bob amser yn yr adeg hono. Ac fel yr oeddwn wedi synied, cefais ar ddeall yn bur fuan wedi fy ngalw ymlaen, fod llinyn yr hen dadau yn llawn mor dỳn ag yr oeddwn wedi meddwl. Dywedent fod yn rhaid i mi newid fy sefyllfa cyn y gallent roddi i mi ddeheulaw cymdeithas. Yr oedd lliaws yr eglwys yn wahanol eu teimladau, os nad eu barn hefyd, a mynent adael ar fy addewid y gwnawn gadw at reolau yr eglwys yn yr amgylchiad. Teimlwn yn ddigon ystwyth ar y pryd i fyned dan eu traed, a gwneyd beth bynag a geisient genyf, ond yn unig i mi gael lle yn y ty. Noson ystormus a fu y nos Sadwrn hono i mi rhwng pob peth, ond cefais fy nerbyn, a cheriais inau allan gyfarwyddiadau yr eglwys yn fanwl, gan newid fy sefyllfa mor fuan ag y gellais. Ac heb fod yn faith, cafodd fy mhriod ei gogwyddo i ddwyn yr iau fel finau, ac yr ydym wedi cael y fraint o gael ein cynal dani hyd heddyw—" y deugain mlynedd hyn." Cefais fy nerbyn i gymundeb ymhen ychydig o wythnosau. Bu y frawdoliaeth oll, ond ychydig eithriadau, yn siriol iawn i mi, gan fy nghyfarwyddo a'm diddanu bob cyfleustra a gaent, ac am hyny teimlaf barch i'w llwch hyd yn awr. Dylaswn ddweyd mai adeg nosaidd ar grefydd ydoedd ar y pryd, a fy mod o'r herwydd fel aderyn y to, yn unig ymysg fy nghyfoedion.