PENOD V.
Ei helyntion fel crefyddwr.
NODWEDD Y FLWYDDYN GYNTAF—PROFIAD HYFRYD—AMHEUON YN CYFODI—CYMDEITHASFA ABERYSTWYTH—ODFA Y PARCH. JOHN JONES, YSBYTTY—PROFIAD YN GYRU I WEDDIO—GWEDD ARALL AR ANGRHEDINIAETH A'R ORUCHAFIAETH ARNO.
Rhyw adeg bur gymysglyd ar fy mhrofiad fu y flwyddyn gyntaf o'm taith grefyddol. Bum yn meddwl unwaith fy mod yn meddu y "llawenydd trwy gredu." Nis gallaf anghofio yr olwg a gefais a'r teimlad a fwynheais ryw noson, pan newydd fyned i'r gwely. Teimlwn i raddau dwys fy mod yn bechadur mawr; ond daeth rhyw fflachiad gogoneddus o oleuni ar fy meddwl, wrth fyfyrio ar drefn Duw i gadw pechadur, trwy ei gyfiawnhau yn rhad yn Nghrist Iesu. O'r olygfa ogoneddus a gefais ar y Person a osododd Duw yn Iawn! A thebygwn fy mod yn clywed llef yn dweyd, "Gollwng ef yn rhydd, mi a gefais iawn," a thebygwn i mi deimlo rhinwedd y gollyngdod. Teimlwn fel pe byddwn yn gorphwys ar Graig yr Oesoedd. Diolch am yr hyn a gefais ar y pryd, beth bynag ddaw o honof yn y diwedd. Nis gallaf ddatgan yr hyfrydwch a gefais yn y misoedd hyny mewn dirgel fanau. Ond nid hir y bu cyn i'r hin gyfnewid. Cododd ofnau ac amheuon yu gymylau yn fy meddwl, ac aeth fy mynwes yn faes rhyfel gwaedlyd rhwng ffydd ac anghrediniaeth. Parhaodd y terfysg hwn am fisoedd.
Yn y cyfamser, yr oedd Cymdeithasfa y gwanwyn yn Aberystwyth. Taer erfyniais ar yr un oedd yn cydweithio â mi i ddyfod yno gyda mi, a chydsyniodd â hyny. O! fel yr oeddwn yn dyheu am y dyddiau, gan gredu y cawn rywbryd yn ystod y