Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymanfa ryw oleuni a chysur adnewyddol. Y cyntaf a glywais yn y Gymanfa am 6 y bore, oedd y diweddar Barch. Enoch Lewis, Abergwaun, ar y geiriau, "Bywha dy waith yn nghanol y blynyddoedd." Yn ei sylwadau, dygodd amryw brofion fod gwaith yr Arglwydd yn isel. Ac un o'r cyfryw brofion oedd, "Mai ychydig o arwyddion gwir argyhoeddiad oedd yn y rhai oedd yn dyfod at grefydd yn y dyddiau hyny." Teimlais ei eiriau fel brath cleddyf. Disgwyliwn yn bryderus am yr odfa 10, gan feddwl y byddai i ryw genad hedd gymhwyso balm at fy nghlwyfau dolurus. Yn hon pregethodd y Parch. Morgan Howells ar y geiriau, "A hyn yw y bywyd tragwyddol, iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist." Wedi iddo yntau sylwi ar yr amrywiol bethau yr oedd dynion yn pwyso arnynt heblaw Crist croeshoeliedig, gwaeddodd allan gyda bloedd ofnadwy a difrifol, "O bobyl, cloddiwch yn ddigon dwfn am graig yn yr oes dywodlyd hon." Teimlwn inau mai un o bobl y tywod oeddwn. Ni chaniateid i mi y dydd hwnw gymeryd gafael mewn dim cysurus. Pethau pobl eraill yr ystyriwn y pethau hyny. Cefais brofiad gwirioneddol o'r hyn ddywed yr eglwys yn llyfr y Caniadau, "Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas a'm cawsant, a'm tarawsant, a'm harchollasant, gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddiarnaf." Fy mhrofiad wrth droi adref oedd eu bod wedi fy stripio o bob edefyn o'm crefydd. O mor wangalon yr oeddwn wrth nesau at fy nghartref! Yr oeddwn yn dlawd ac yn hollol dlawd. Tebygwn fy mod wedi gweddio llawer, a hyny yn daer, am gael bendith yn y Sasiwn; ac ni ddymunwn roddi yn erbyn Gwrandawr gweddi ei fod wedi fy ngadael i'w geisio yn ofer, ond eisiau cael cysur a gorfoledd oedd arnaf. Yn lle hyny, fy ngosod i grynu ac ofni a wnaeth, nes i bryder a digalondid fod bron a fy llethu y dyddiau canlynol.

Ond y boreu Sabbath canlynol, digwyddodd fod y diweddar Barch. John Jones, Ysbytty, yn pregethu yn y capel, ar y geiriau, "Oherwydd paham, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, bydded