genym ras, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn." Torodd gwawr cysur a gorfoledd arnaf yn yr odfa, a theimlwn fy mod yn cael fy ngorlenwi â hyfrydwch. A'r peth a ddisgwyliwn gael yn y Sasiwn, yr wyf yn meddwl byth i mi ei gael yn yr odfa hono. Parhaodd y teimlad dymunol ar fy meddwl am wythnosau, fel y cefais awydd ymgysegru i'r Arglwydd yn adnewyddol, yn y gobaith o gael bod yn un o ddeiliaid y fath deyrnas. Ond daethum i ddeall nad oedd awyrgylch grefyddol fy mhrofiad i fod yn glir felly yn faith, y tro hwn eto. Cododd cymylau gauaf ystormus yn fy meddyliau. Y cyntaf y waith hon ydoedd, rhyw haeriad fy mod yn bechadur mor fawr, fel mai anhawdd oedd gan Dduw faddeu fy mhechodau. Ac yr oedd fy ngweddiau ar y pryd hwnw yn gyfryw, fel y tybiwn mai trwy ddylanwad taerni fy ngweddiau yr oedd cael Duw i faddeu i mi. Bu fy meddwl am wythnosau yn y sefyllfa gythryblus hon. Ond un prydnhawn, pan yn dringo i fyny at fy ngwaith, ar le a elwir Llechwedd—ddyrus, troais i gilfach greigiog i dywallt fy myfyrdod gerbron Duw; a phan yn yr ymdrech, llewyrchodd goleuni, tebygwn mor ddisymwth a'r fellten, ar fy meddwl, trwy y gwirionedd fod Duw yn hoffi trugarhau, ac yn chwilio am le i dosturio, nes yr oeddwn mewn canlyniad bron ymdori gan lawenydd a diolchgarwch. Nid anghofiaf y teimlad hwn, na'r lle y cefais ef, tra byddaf ar y ddaear. Yn y seiat gyntaf ar ol hyn, gwnaeth y pregethwr y sylw, "Fod pechadur dan argyhoeddiad yn meddwl mai gwaith anhawdd ydyw tueddu meddwl Duw i drugarhau wrtho a maddeu, pan mewn gwirionedd y dylai ddeall mai gwaith hyfrydaf Duw ydyw maddeu, ei fod yn chwilio am y pechadur sydd yn ymofyn am hyny." Teimlwn fod y geiriau fel y diliau mel i'm henaid.
Ymhen rhyw gymaint wedi fy ymuniad â chrefydd, ymosododd angrhediniaeth arnaf mewn gwedd mwy haerllug nag erioed, trwy ymgais i wneyd i mi ameu y Bod o Dduw, dwyfoldeb y Beibl, a phob peth perthynol i grefydd yr Arglwydd Iesu. Bu y syniadau