Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn yn poeni fy meddwl ddydd a nos am rai wythnosau. Ar yr un pryd, arswydwn rhag i neb ddyfod i wybod am fy syniadau annuwiol. Ond, ryw ddiwrnod, pan yn myfyrio ar y pethau hyn, troais fy ngolwg at yr haul a'r bydoedd uwchben, ac wedi hyny at y corff dynol, a meddyliais am reoleidd—dra ysgogiadau y rhai hyn yn cyflawni eu gwaith. Yn y myfyrdod, cefais oruchafiaeth yn y syniad fod yn rhaid fod rhyw Fod mawr, gallug, doeth, a da yn achos o bob peth. Ond, er cael llonydd gan hyn am ychydig, cefais fy mhoeni gan syniadau eraill llawn mor annymunol, megis yr un nad oedd y Beibl yn wir, mai rhyw fath o novel oedd hanes Iesu Grist, ac y gallai canlynwyr Hwnw gredu ynddo, fel canlynwyr Mahomet yn eu harweinydd hwythau. Brydiau eraill, poenid fi gan y syniad nad oedd y wir eglwys i'w chael ymysg y gwahanol enwadau crefyddol; neu os ydoedd, mai Eglwys Rufain oedd yr un iawn. O y fath feddyliau cableddus oedd fel yna yn gwau trwy fy nghalon, nes fy ngwneyd lawer diwrnod yn greadur truenus iawn. Eto yr oeddwn yn ceisio ocheneidio yn erbyn y fath feddyliau; ond er llefain felly am wythnosau, nid oeddwn yn cael goruchafiaeth. Modd bynag, pan oeddwn ryw ddydd yn myned at fy ngwaith i Copper Hill, wedi deall fod gweithwyr y boreu wedi ymadael, ac na ddeuai fy nghydymaith inau yn fuan, penderfynais ddefnyddio yr adeg, ddiberygl o gael fy affonyddu am un awr beth bynag, i dywallt fy myfyrdod o'i flaen Ef, a pheidio rhoddi fyny nes cael rhyw waredigaeth oddiwrth y meddyliau terfysglyd oedd yn fy mlino. Tra yn yr ymdrech, daeth y gair hwnw gyda rhyw nerth anorchfygol at fy meddwl, "At bwy yr awn ni, genyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol," fel y gorfu i mi waeddi, "Ar ei ol ef yr af, ac o derfydd am danaf, darfydded." Neb ond Iesu mwy, “Iesu ei hunan, oll o flaen y fainc i mi." Teimlwn bellach fy mod wedi cael fy ngelynion dan fy nhraed, a chefais y fath orlenwad o lawenydd, nes y teimlwn yn ddedwydd nad oedd neb yn agos i'm rhwystro i roddi ffordd i'm teimladau. Ni theimlais nemawr oddiwrth y syniadau dieflig uchod byth mwyach. Mae yr hen