Pan ddaeth y Cyfarfod Daufisol, yr oedd areithiau wedi dyfod o bob lle yn y dosbarth, ac areithiau rhagorol oeddynt. Ond gadawyd areithiau Cwmystwyth a'r Trisant heb eu hadrodd, hyd gyfarfod cyhoeddus dau o'r gloch. A phasiwyd penderfyniad, bod i ddwy araeth felly gael eu cadw ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus yn y Cyfarfodydd Daufisol yn y dyfodol. Gwasgodd hyn yn drwm ar fy meddwl, gan nad oeddwn wedi dyfalu am ei hadrodd yn gyhoeddus felly. Wedi myned allan o gyfarfod y boreu, ceisiais am ryw le cuddiedig i loewi ychydig ar fy meddwl, ac i ddweyd fy nhywydd hefyd wrth fy Nhad nefol. Pan yn dychwelyd at y capel, clywn dri neu bedwar o frodyr yn siarad am y mur â mi, yn lled uchel; a swm eu hymddiddan oedd, fod yn gywilydd ganddynt i fy araeth i gael ei hadrodd yn gyhoeddus, gan nad oedd yn deilwng i'w chymharu ag areithiau y boreu. 'Felly," meddai rhyw frawd oedd heb ei chlywed y Sabbath; "rhai da oedd y rhai a adroddwyd." Gall pawb ddeall fod hyn yn tueddu at fy llwfrhau yn ddirfawr. Modd bynag, pan y'm galwyd, anturiais ddweyd, ac nis gallaf lai na chydnabod i mi dderbyn nerth a goleuni o'r tu allan i mi fy hun. Yr oedd yr Hybarch. Evan Evans, Aberffrwd, yn gwaeddi “Amen,” a "Ho, ho," cyfuwch a minau, a lliaws yn ymddangos fel yn cael mwynhad mawr, rhai mewn dagrau, ac eraill yn llawen. Ac wedi dyfod allan o'r odfa, y peth cyntaf a glywais oedd yr hen frawd W. Morgan, Gwndwngwyn, yn danod i'r brodyr oeddynt wedi barnu fy araeth yn ddiwerth, ac yn dweyd na roddai ef yr un pwys ar eu barn ar ol hyny. Mynent hwythau haeru nad yr araeth a glywsant hwy y Sabbath ydoedd. Os oeddwn yn isel fy meddwl o'r blaen, cefais frwydr galed gyda Satan gwyn ar ol yr odfa. Beth bynag yr oedd y wallet yn gydbwys. Gallaf ddweyd i lawer haf a gauaf fyned dros fy mhen yn y blynyddoedd hyn eto. Rywbryd, pan oeddwn tua 27ain oed, syrthiodd y goelbren arnaf i fod yn flaenor. Gyda gwylder mawr yr ymgymerais â'r swydd hon, yn enwedig gan fod yno gynifer o hen dadau a brodyr eraill, oedd yn fwy addfed o ran oedran a phrofiad i'w chymeryd. Ond oherwydd eu
Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/32
Gwedd