bod wedi dangos mor rhydd oddiwrth eiddigedd tuag ataf, ac yn fwy na hyny, rhoddasant i mi ddeheulaw cymdeithas, nes fy ngwroli i wneyd fy ngoreu yn y cylch hwnw drachefn.
Nid oeddwn yn cael llonydd gan ryw ysfa yn awr a phryd arall ynghylch myned i bregethu. Teimlwn awydd mawr am weled fy nghymydogion yn cael eu hachub. Ond nid oeddwn yn credu y gallai pethau ddyfod byth i hyny, fel ag i mi gael gwneyd lles iddynt trwy bregethu. Wrth weled pwysigrwydd y gwaith, gofynwn yn fynych, "Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" Ac arswydwn rhag i neb ddyfod i feddu yr un syniad am y cymhelliad at hyny oedd yn fy meddwl. Pan yn ymddiddan â mi fy hun ynghylch myned i bregethu, a chadw seiat gydag eglwysi eraill, dywedwn yn y fan, "Na, nid ynganaf air byth am hyny." Modd bynag, dyfnhau yr oedd y peth yn fy meddwl yn barhaus, ac eto yn ymgadw rhag dweyd gair wrth neb am dano. Cymerais y peth yn destyn gweddi feunyddiol, am i mi gael llonydd gan y cyfryw feddwl, ac atolygais lawer dengwaith ar iddo ymadael a mi. Pan oeddwn tua 29ain a 30ain oed, ciliodd fy nghwsg oddiwrthyf oblegid yr anesmwythdra hwn, ac nid oedd heb effeithio peth ar fy iechyd. Gofynai Elisa, fy mhriod, i mi yn fynych beth oedd arnaf, pan oeddwn yn methu cysgu felly; a dywedai bethau rhyfedd weithiau oedd yn dyfod i'w meddwl, er mwyn tynu allan y dirgelwch oddiwrthyf, ond i ddim diben. Ond pan ddeallais fod y peth yn peri blinder mawr iddi, mynegais iddi, ar yr amod na byddai iddi ar un cyfrif hysbysu y gyfrinach i neb. Ond nid yn hir y darfu iddi ymgadw, a blinai fi yn fawr ynghylch rhoddi y mater o flaen y blaenoriaid, yn enwedig o flaen fy hen athraw anwyl, Mr. W. Burrell; ond ni chaniatawn o gwbl. Yr oeddwn ar y pryd yn hynod o druenus fy meddwl, a fy nghwsg wedi llwyr gilio. Nis gallaf anghofio un boreu Sabbath, yn haf 1854, pan oeddwn wedi methu cysgu, ac wedi codi oddeutu tri o'r gloch, pan oedd pawb mewn gorphwysfaoedd. Yr wyf yn cofio bod rhyw olwg brydferth ar natur, a'r haul yn saethu ei belydrau ar y pryd-