ferthion. Yr oeddwn wedi darllen rhyw gyfran o'r Beibl cyn myned allan, a mynwn gredu ei fod yn dweyd wrthyf, "Nid oes i ti ran na chyfran yn y gorchwyl hwn." Ymneillduais i ddirgelfa, i dywallt fy holl galon gerbron Duw; a chan mai boreu Sabbath ydoedd, a'i bod mor foreu, nid oedd perygl i mi gael fy aflonyddu gan neb byw. Dechreuais trwy ddiolch bod yr adnodau a nodais wedi dyfod i fy meddwl, gan gredu fod ganddynt lais ataf ynghylch rhoddi fyny y meddwl am fyned yn bregethwr. Ond tra yn tywallt fy myfyrdod ger ei fron Ef yn y fan hono, ymsaethodd gair arall i fy meddwl, sef yr adnod hono, "Am hyny, dos yn awr, a mi a fyddaf gyda'th enau di, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych." Teimlwn erbyn hyn fy mod megis rhwng dau forgyfarfod, ac aeth yn waeth arnaf nag o'r blaen. Ofnwn y byddai i mi ddigio yr Arglwydd trwy nacau. Yr oeddwn tua diwedd 1854 yn gweithio mewn lle peryglus iawn; a rhyw wythnos, pan oeddwn yn gweithio turn nos, braidd y credwn wrth adael fy nghartref yr un noswaith y dychwelwn yn fyw dranoeth. Pan y byddwn mewn rhyw le penodol, wrth fyned, yn ceisio rhoddi fy ngofal i'r Arglwydd, deuai y cymhelliad i bregethu i fy meddwl yn y fan, nes y byddai i mi, fel Jacob, addunedu, os cedwid fi yn fyw ar y daith, y cawsai yr Arglwydd fod yn Dduw i mi, ac ychwanegu gyda golwg ar y pregethu, "Mi af yn wir Arglwydd."
Wedi hyn cymerais y mater mewn ffurf arall o flaen Duw, sef os oedd y cymhelliad oddiwrtho Ef, am iddo ei ddatguddio i eraill, gan feddwl pobl flaenaf yr eglwys. Heb fod yn faith, gwnaeth Mr. W. Lloyd, ysgolfeistr, a phregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleyaid, daflu llawer awgrym ataf gyda golwg ar hyny, ac nis gallwn inau wadu nad oedd hyny ar fy meddwl. Pan oeddwn yn myned tua'r ysgol un boreu Sabbath, cyfarfyddais â Mr. John Morgan, Ty'nrhyd, a'r gair cyntaf a ddywedodd wrthyf oedd bod arno eisiau fy ngweled, i adrodd y breuddwyd oedd wedi gael neithiwr. "Gweled yr oeddwn," meddai," "dy fod di a minau wedi cael caniatad i dreio pregethu; ond gorfu i mi ildio wedi methu, ac aethost