Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr eglwys, yr hyn oedd yn unfrydol. Penderfynwyd myned a'r achos i Gyfarfod Misol Awst, 1855, yr hwn oedd i fod yn Rhydlwyd. Rhoddodd Mr. David Jones achos yr ymgeisydd o Gwmystwyth o flaen y frawdoliaeth yn y goleuni goreu. Apeliodd, hefyd, at swyddogion Dosbarth Cynon, y rhai oeddynt yn fy adnabod, ac wedi fy nghlywed yn areithio lawer gwaith yn y Cyfarfodydd Daufisol, a rhoddasant oll eu barn yn fy ffafr. Priodol dweyd yn y fan yma mai yn nechreu y flwyddyn hono y pasiwyd y ddeddf, fod yn rhaid i bob ymgeisydd fyned ar brawf trwy holl eglwysi dosbarth yr Ysgol Sabbothol i ba un y perthynai, a chael hefyd gymeradwyaeth y rhan fwyaf o honynt, cyn y cawsai fyned i bregethu. Gofynodd Mr. D. Jones am fy esgusodi i gael myned trwy y dosbarth; a chymerodd y Parch. Robert Roberts, Llangeitho, ei blaid, gan ddadleu fod hyny yn hollol afreidiol-fy mod yn awr dros 30 oed, fy mod wedi fy ngosod i lanw pob cylch yn eglwys Cwmystwyth, hyd at fyned i'r pulpud, &c. Ond dadleuai y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, fod yn rhaid sefyll at y rheol (yr hyn yn ddiau oedd yn iawn), ac felly y pasiodd. Pan welodd yr hen frawd pybur, Mr. D. Jones, y modd y trodd y fantol, rhoddodd rybudd i holl flaenoriaid Dosbarth Cynon i fy ngalw i'w prawf yn ddioed. Yr wythnos ganlynol dyma dri neu bedwar o lythyrau, yn fy ngwahodd i wahanol leoedd y Sabbath canlynol; rhai a materion trymion i mi draethu arnynt, ac eraill heb yr un mater, pwnc i'w holi, na thestyn pregeth. Yr oedd y syniad gan rai mai ar y pryd yr oedd y testyn i gael ei roddi. Llethwyd fi i'r llawr gan yr holl faterion, a minau heb ddim amser i barotoi ar gyfer yr un o honynt. Daeth edifeirwch fel llifeiriant i fy meddwl, am i mi erioed roddi fy hun yn ymgeisydd. Penderfynais nad awn i un o'r lleoedd y Sabbath hwnw. Ond pan ddaeth y Sabbath, a minau gartref, a'r brodyr yn holi o un i un, "Paham yr wyt ti yma heddyw," aethum yn hynod o annedwydd. Wrth fyned adref o odfa y boreu, cenfigenwn wrth yr adar bach, a dywedwn, "O na buaswn yn aderyn, ac nid yn ddyn !" Ond trwy fod y brodyr yn nesau ataf, ac yn fy