Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anog i ymwroli, trefnais i fyned i bob un o'r eglwysi; ac felly aethum trwy y prawf rywfodd mewn ychydig amser. Dangosodd pob lle serchawgrwydd mawr, a buont yn ddigon grasol i gyd i roddi eu cymeradwyaeth i mi. Wedi i'r llythyrau gael eu darllen i'r Cyfarfod Misol, trefnwyd i'r Parch. Edward Jones, Aberystwyth, a Thomas Edwards, Penllwyn, ddyfod i Gwmystwyth i fy holi fel arfer, yr hyn a fu Rhagfyr 18fed, 1855. Cefais gymeradwyaeth yr eglwys a'r ymwelwyr ; ac yn y Cyfarfod Misol dilynol rhoddwyd caniatad i mi ddechreu pregethu o fewn cylch y dosbarth.

Dyna beth anhawdd i'w sylweddoli, oedd fy mod i fyned i bregethu! Ond ar y 23ain o Ionawr, 1856, gosodwyd arnaf i roddi anerchiad mewn ffurf o bregeth am y waith gyntaf. Cymerais yn destyn, Act. iv. 12. Cefais nerth i fyned drwy y gwaith heb dori i lawr. Ac nis gallaf anghofio fel y cydymdeimlai yr holl gynulleidfa â mi, ac mor ffyddlon y bu yr hen frodyr a'r chwiorydd i gynal fy mreichiau gyda'u "Hamenau" gwlithog. Wele 30 o flynyddoedd wedi myned heibio oddiar hyny, ac y mae genyf achos i godi fy Ebenezer-" Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd fyfi." Yr oedd newydd-deb y gwaith odgodi pregethwyr yn Cwmystwyth yn peri i'r bobl wneyd mwy drosof. Myfi oedd yr ail ymgeisydd i fyned dan y rheol o basio trwy y dosbarth, ac yr oedd y ddau o'r lle hwn; ond ciliodd y cyntaf heb fyned trwy y prawf o gwbl, ac felly myfi oedd y cyntaf i ddechreu pregethu o'r lle. Nid anmhriodol i mi goffhau y peth a ddywedodd y Parch. E. Jones wrthyf, y noson y bu ef a'i gyfaill yma yn fy arholi. Wrth glywed y brodyr, y naill ar ol y llall, yn rhoddi eu tystiolaeth yn fy ffafr, dywedodd, "Anwyl frawd, os byddwch chwi yn onest dros Dduw yn eich swydd, cewch chwi weled gwedd wahanol i heno ar lawer o wynebau tuag atoch." Ac y mae yn rhaid i mi ddweyd fy mod wedi cael profi gwirionedd ei eiriau lawer gwaith yn ystod fy ngweinidogaeth.

[DIWEDD YR HUNANGOFIANT.]