Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pregethwr fod yn hir iawn yn ymddadblygu ynddo. Yr oedd y byd, yr eglwys, ac uffern, wedi bod ar eu goreu yn ceisio gwneyd offeryn cymwys o hono at lawer o bethau yn eu gwasanaeth hwy, cyn i'r pregethwr ymddangos. Ac, a dweyd y gwir, yr oedd yntau yn profi y gallai wneyd pob peth a gynygid iddo gan bob un, ond fod rhywbeth anweledig, ond anwrthwynebol, yn ei rwystro i fyned yn ei flaen. Meddyliodd y byd wneyd siopwr, bugail defaid, mwnwr, ac ysgolfeistr o hono. Meddyliodd yr eglwys am ei wneyd yn aelod cyffredin, yn athraw Ysgol Sabbothol, ac yn flaenor eglwysig. Meddyliodd uffern am ei wneyd yn chwareuwr, yn gablwr, yn anllad, ac yn amheuwr anffyddol. Rhaid dweyd mai methiant fu y cwbl, fel yr edrychir arnynt yn swyddau parhaus. Ond meiddiwn ddweyd dau beth. Yn gyntaf, yr oedd yr holl swyddau eglwysig a gafodd yn ei ragbarotoi i fod yn bregethwr, er na amcanwyd hwy felly. Yn ail, cafodd pob gwaith arall gynyg, iwyd iddo, eu goruwch—lywodraethu er bod yn rhyw gymhwysder iddo at y cylch uchaf y bu yn troi ynddo. Chwareu teg i eglwys y Cwm, gwnaeth hi ei goreu i foddloni yr anian grefyddol oedd ynddo, a'r awydd angerddol i ragori mewn defnyddioldeb. Gwnaeth fwy yn hyn nag y mae llawer eglwys wedi wneyd tuag at ei dynion ieuainc. Cafodd ei thalu yn dda, magodd dan ei dwylaw bregethwr defnyddiol iddi ei hun, ac i holl eglwysi y wlad.

Mae llawer ddarfu ragori mewn rhywbeth neillduol, wedi bod yn hir yn ymddadblygu cyn i'r brif ragoriaeth oedd ynddynt ddyfod i'r golwg. Bu Dr. John Kitto, y dyn byddar enwog, yn gwerthu carpiau, yn gweithio gwaith crydd, yn ymdrechu bod yn dentist, ac yn athraw mewn teuluoedd uchel, cyn iddo ymddangos fel awdwr y Beibl Darluniadol adnabyddus, a'r Cypclopedia of Biblical Literature. Bu Syr Walter Scott yn ymdrechu llawer i ragori fel bardd, fel barrister, ac fel llenor, cyn iddo ymddangos i'r byd yn ei brif ragoriaeth—fel nofelwr. Felly y bu gyda'r Parch. W. Caledfryn Williams, dysgu yr alwedigaeth o wehydd, fel ei dad, ac eraill o'i dylwyth; wedi hyny yn myned yn ysgolfeistr, ac yn fardd,