cyn i'r pregethwr ymddangos. Nid oes neb ystyriol o bwysigrwydd gwaith y weinidogaeth, a ddywed nad yw yr arafwch a'r gochelgarwch hwn yn well na rhuthro i'r swydd yn ddifeddwl, yn ddiweddi, a diysbryd; ac yn llawer gwell, hefyd, na dysgu dyn i fyny o'i febyd ar gyfer y swydd, heb feddwl dim a yw yn gymwys iddi ai nad yw. Yr oedd yn rhaid i Mr. Edwards, fel yr hen bregethwyr, gael graddau o foddlonrwydd am feddwl Duw, ac am ysbryd y swydd, cyn amlygu ei fwriad i ymgymeryd â hi. Tebyg i'r iachawdwriaeth ei hun y mae hyn i fod,—"Nid o weithredoedd, eithr o'r Hwn sydd yn galw." Chwilio am yr alwad oddiwrth Dduw y mae pob dyn ieuanc cydwybodol, a hyny o flaen ac yn fwy na phob peth arall. Ac y mae rhai yn hwy nag eraill yn yr ymchwiliad pryderus a manwl hwn. Gobeithio na chollir yr ysbryd gonest a chydwybodol hwn o eglwysi ein gwlad.
Nid llai amlwg yw yr ysbryd gonest tuag ato ei hun a amlygir yn y Cofiant. Trueni i elyn dynoliaeth dynu y dyn rhagorol hwn trwy dipyn o laid; ond os gwnaeth hyny, ni allodd ei gadw rhag gweled y budreddi, na rhag addef ei anwiredd, a'i adael hefyd. Os creffir ar yr hanes, mae y gonestrwydd yn dyfod i'r golwg mewn mynegu y rhinweddau hefyd. Os gwneyd bywgraffiad, ni wnaethai chwareu teg âg ef ei hun heb wneyd hyny. Ond nid yw yn gwneyd hyny er canmol ei hun. Yn hytrach, ni allasai beidio gwneyd heb guddio prif linellau ei gymeriad; buasai felly yn anadnabyddu Thomas Edwards y wlad, wrth broffesu ei ddangos. Yr oedd ynddo ef ormod o ddidwylledd i wneyd hyny. Yr ydym yn ddiolchgar iddo am roddi cymaint o hanes, ac am ei roddi fel y mae, mor bell ag yr aeth. Trueni na buasai yn dweyd mwy am dano ei hun fel pregethwr. Yr oedd yn gweled ei fod yn y cymeriad hwnw mor adnabyddus, fel mai gwell oedd ganddo ei adael i farn y cyhoedd.