Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welsom ef yn esgeuluso y ddyledswydd deuluaidd yn ystod ei holl fywyd, hwyr na boreu, Sabbath nac wythnos; ac ni ddangosodd un math o anghyfleustra nac anhawstra i'w chyflawni, pa beth bynag fyddai yr amgylchiadau. Yr oedd pob peth i roddi ffordd i hon. A phan yn ei gystudd diweddaf, yn methu bron ag anadlu gan wendid, cyflawnai hi a'i bwys ar ben ei ffon, hyd yr wythnos olaf y bu fyw. Byddai raid cael yr holl deulu i amgylchu yr allor, a phob un i ddweyd adnod. Yna darllenai ychydig o adnodau, a byddai yn bur hoff o wneyd hyny o'r Salmau. Cawsom lawer iawn o hyfforddiadau crefyddol ganddo pan yn cyflawni y ddyledswydd hon, a chynghorai ni yn fynych, a dagrau ar ei ruddiau, fel y gadawai argraff ddofn ar ein meddyliau ei fod wrthi o ddifrif. Yr oedd yn hoff iawn o siarad wrthym fel plant am Grist a'i ddioddefiadau, nes meithrin teimladau tyner ynom at y Gwaredwr. Ymdrechai ein cael i bob moddion o ras, yn enwedig y cyfarfod eglwysig; a chymerai ofal mawr i'n hatal i bob math o leoedd. amheus, megis ffeiriau, &c. Yr oedd ganddo barch neillduol i'r Sabbath, a gosodai bwys mawr ar ei gadw yn sanctaidd, trwy beidio siarad dim ond a fyddai yn gweddu i waith y dydd. Teimlai i'r byw wrth weled dynion yn gwneyd gwas o'r dydd i wag rodiana ac ymweled â'u gilydd.

"Yr oedd yn amlwg arno bob amser ei fod yn teimlo yn ddwys oblegid pwysigrwydd y gwaith crefyddol. Nid oedd un amser yn myned i'r odfeuon cyhoeddus heb fyned i'r fangre ddirgel gerllaw y ty, lle y treuliai gryn lawer o'i amser. Pan gawsai odfa galed, byddai yn gruddfan yn uchel, ac yn myned i'r un lle i ddweyd ei dywydd yn ngeiriau y bardd,

'Beth yw'r achos bod fy Arglwydd
Hawddgar grasol yn pellhau?'

Brydiau eraill, byddai yn llawen iawn, ac yn diolch am yr odfeuon gwlithog."

Dyna ei gymeriad yn nghyfrif ei blant. Diameu fod y dwysder crefyddol fyddai yn ei hynodi bob amser, a'r anwyldeb anghyffredin