a deimlai at bob math o foddion gras, wedi cael eu cynyrchu, nid yn unig gan ei dduwioldeb personol dwfn, ond hefyd, i raddau, gan ansawdd ysbrydol dda yr eglwys y perthynai iddi, yn enwedig ei sefydliad o gyfarfod gweddi, i ofyn am dywalltiad o'r Ysbryd Glan. Yr oedd hwn bob nos Lun, a chymerai yntau ran arbenig ynddo. A dywed Mr. Abraham Oliver fod y cyfarfod hwn wedi bod yn llesol iawn i fywyd ysbrydol yr eglwys trwy y blynyddoedd. Pethau fel yma a'i cododd i fod yn weithiwr mor galed dros grefydd, gartref ac ymhob lle arall. Yr oedd yn barod i bob gweithred dda. Dywedai y Parch. Dr. Edwards, Aberystwyth, yn ei gladdedigaeth, wedi dangos fod rhyw neillduolion amlwg yn perthyn i'r gweinidogion a fu farw bron yr un amser ag ef :—" Ond am y brawd hwn," meddai, "nid oedd dim neillduolrwydd yn perthyn iddo ef, Cristion cyfan ydoedd, llawn ymhob cylch. Yr oedd barchusach yn yn Sir Aberteifi nag unman arall, am mai pobl Sir Aberteifi oedd yn ei adnabod oreu. Onid yw peth fel yna yn gymhelliad i ni fod yn ddynion da a chysegredig i Iesu Grist? Yr oeddwn yn teimlo wrth glywed y blaenor, Mr. Morgans, yn adrodd hanes y brawd, pe buaswn yn dyfod yma yn anffyddiwr, y buaswn yn ymadael oddiyma yn Gristion. Yr wyf yn credu mewn Cristionogaeth. Gallasem dybied, pan y mae yr Arglwydd yn cymeryd dynion da fel hyn oddiarnom, bod Cristionogaeth yn myned i ddarfod o'r tir; ond tra y bydd y pulpud yn cael ei lanw gan ddynion da, os nad mawr, ni fedr y gelyn byth ein gorchfygu."