Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwedd codi y capel newydd presenol, a'r holl adeiladau perthynol iddo. Yr oedd yn gwneyd yr oll heb dâl, yn gystal ag y gwnaeth gyda'r tâl. Yr oedd ei ymlyniad mor llwyr hefyd wrth yr eglwys a'r gymydogaeth, fel y gwrthododd fyned i leoedd eraill, er cael gwahoddiad taer i hyny. Na, yma y mynai fod, er yr holl anfanteision i fyw yn y fath le anghysbell. O'r flwyddyn 1883, boddlonodd ar 5p. yn llai nag a benodwyd iddo yn y dechreu, oherwydd fod yr ardal wedi ei darostwng i dlodi, trwy fod y gweithiau mor wael a'r trigolion yn ymadael." Bu eglwys Capel Afan dan ei ofal fel bugail am ysbaid maith, a dyma fel y dywed Mr. John Davies am y cysylltiad hwn: "Bu yn fugail yma am amryw flynyddoedd, a mawr y lles a wnaeth, yn enwedig gyda'r plant. Mae effaith ei waith i'w weled hyd heddyw, trwy fod y plant yn dyfod i'r seiat wrth y degau. Treuliai lawer o amser gyda hwy, fel Ꭹ daethant i deimlo dyddordeb neillduol yn y cyfarfod."

"Dyn da ydoedd, yn byw mewn cymydogaeth dda.”—Parch. W. Jones, Pontsaeson. "Yr oedd fy mharch i Mr. Edwards yn cynyddu o hyd fel yr oedd fy adnabyddiaeth o hono yn cynyddu. Po fwyaf yr oedd yn byw, mwyaf i gyd oedd y parch a hawliai. Yr oedd felly yn y Cwm yn anad unman, am mai pobl y Cwm oedd yn ei adnabod oreu. Yr oedd yn meddu y fath ddylanwad ar gynulleidfaoedd y wlad, fel y gwnaeth fwy tuag at sicrhau Ilwyddiant y Drysorfa Sirol na phawb eraill ynghyd. Y wers wyf fi yn ddysgu yn mywyd Mr. Edwards yw, mai y bywyd goreu ar y ddaear yw bywyd llawn o waith, ac wedi ei gysegru i wasanaeth Mab Duw."-Mr. D. J. Davies, U.H. "Yr oedd Mr. Edwards, nid yn unig yn was da i Iesu Grist, ond hefyd yr oedd yn ddyn anwyl iawn. Yr oedd yn weinidog cymwys y Testament Newydd yn ei berson a'i ysbryd. Yr oedd ef yn llestr hardd, wedi ei gymhwyso gan Dduw i gario cenadwri yr efengyl, a chariad Duw yn llon'd ei lygaid a'i ysbryd, ac yr oedd ei genadwri yn cael ei derbyn gan y cynulleidfaoedd. Teimlir bwlch mawr ar ei ol yn eglwysi y wlad; yr oedd yn ddyn pawb yn y cymydogaethau."—Parch. D. Morgan,