Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Penllwyn. "Bum i yn chwilio am adnod ddisgrifiadol o'r ymadawedig, a chefais hi yn Iago iii. 17., 'Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hyny heddychlawn, bonedd▾ igaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a diragrith.' Yr oedd Mr. Edwards yn cyfateb yn hollol i'r adnod yna. Nid yn unig fe wnaeth ei oreu yn ei fywyd, ond y mae yn myned i wneyd llawer o waith eto, yn y Cwm a'r cymoedd cyfagos, trwy ei ysbryd, ei gynghorion, a'i weddiau cynwysfawr, trwy y rhai y bydd wedi marw yn llefaru eto."-Parch. Thomas Levi, "Ni welais neb erioed yn fwy difrifol na Mr. Edwards, yr oedd in earnest gyda phob peth."—Parch. John Williams, Aberystwyth.

Fel un engraifft o lawer, i ddangos y modd yr oedd Mr. Edwards yn achub cyfleusderau i wneyd lles i ddynion, ac i achos crefydd, nodwn y ganlynol :-" Cefais fy magu yn grefyddol; ond wedi myned yn apprentice gof, ymgollais yn raddol i fod yn aberth i ddiodydd meddwol. Bum yn cadw tafarndy yn Aberystwyth, ac aethum trwy y cwbl. Arweiniodd rhagluniaeth fi i fyned i fyw i Cwmrheidiol, lle y dechreuais fyned i'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd y rhan fwyaf o'r brodyr yn cadw ymhell oddiwrthyf, gan ystyried y drygionus yn ddirmygus yn eu golwg. Aeth blaenor y gân i Lundain, fel nad oedd yno neb yn alluog i ddechreu canu. Pan yn y sefyllfa hono, daeth Mr. Edwards i'r lle; a phan welodd nad oedd yno neb i ddechreu canu, gwnaeth ef y gwaith ei hunan. Ar ol diwedd y cyfarfod, arosodd rhai o'r brodyr yn ol i ysgwyd dwylaw, ac i gwyno ar ol blaenor y gân. 'Paham na wnewch chwi geisio gan John Lewis i ddechreu canu?' gofynai Mr. Edwards. O dear me, nid yw yn b'longed i'r capel oedd yr ateb. 'Nid oes odds am hyny,' meddai yntau, 'rhoddwch chi waith iddo; mae yn resyn fod y diafol yn cael holl ddawn a thalent y dyn yna.' Bu un o'r brodyr mor ffyddlawn a dweyd wrthyf, rhwng difrif a chwareu braidd. Hawdd oedd gweled nad oedd yn meddwl y buaswn byth yn gwneyd. Yn ddamweiniol, cyfarfum a Mr. Edwards ei hun. Ymosododd arnaf o ddifrif i ymgymeryd â'r gwaith,