Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mynychu y moddion, a 'throi a byw.' Daeth i'r ysgoldy eilwaith. Yr oeddwn erbyn wedi dechreu ar y gwaith. Daeth ataf i ysgwyd Ilaw ar ol yr odfa, gan wasgu fy llaw mewn modd nad anghofiaf byth, a gofyn, 'A ydych wedi joino â ni? O dowch gynted ag y galloch, mae yn rhaid i'r Athraw wrthych.' Aeth yr ymadroddion i eigion fy nghalon. Yr oeddwn yn teimlo fy mod wedi fy hen gladdu, ac yn meddwl fod llawer Martha yn barod i ddweyd "fy mod weithian yn drewi' mewn llygredigaeth. Teimlais rym y geiriau hyny rhyngddo ef a mi, 'Wele fel yr oedd yn fy ngharu.' Treiddiodd pelydrau o obaith i ystafell dywyll fy enaid, a gwnaeth y caredigrwydd hyny fwy o ddaioni i mi na holl hyawdledd y pulpud Methodistaidd. Pa beth bynag ddaw o honof, yr wyf yn awr wrth y gwaith o roddi fy hun yn adyn colledig i'r Hwn a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo Ef sydd yn dyfod at Dduw. O! y fath genad o ladmerydd a fu ef i mi!" Gadawn i'r hanes rhagorol yna y rhoddais ddyfyniadau o hono i lefaru drosto ei hun.

PENOD V.

Y Diwedd.

EI GYSTUDD—LLYTHYR—EI BROFIAD—RHAGFYNEGIADAU—YN MARW—EI FEDDROD—EI DEULU A'I BERTHYNAS.

Bu am amser maith yn gystuddiol, gan wanhau yn raddol hyd yr ymddatodiad. Gan fod y dioddefiadau yn ysgeifn, cafodd hamdden