Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ysgrifenu y Cofiant a Hanes Crefydd yn Cwmystwyth. Darfu i ni ysgrifenu ato am hyn, ond ni ddarfu iddo ein hysbysu ei fod yn gwneyd yr oll. Beth bynag, ysgrifenodd y llythyr caulynol atom ar y pryd :

Fron, Cwmystwyth
Tachwedd 5ed 1886

F' Anwyl Gyfaill—

Daeth eich llythyr caredig o gydymdeimlad â mi yn fy nghystudd i law yr wythnos o'r blaen, a dymunaf ddychwelyd fy niolchgarwch diffuant i chwi am dano. Oblegid gallaf ddweyd ei fod wedi lloni fy meddwl yn fawr, mewn gair, mae wedi bod yn foddion gras i mi, wrth ei ddarllen eilwaith ac eilwaith drosodd. Yr ydych wedi cyffwrdd ynddo â llawer iawn o danau fy nghalon a'm profiad. Fel y dywedasoch, bum yn y blynyddoedd diweddaf, braidd y cawn hamdden i feddwl am fy achos personol, gan amrywiaeth amgylchiadau, llafur i gael tipyn i ddweyd wrth eraill, yr amryw gyfarfodydd wythnosol yr oedd y pwys o'u cadw yn ddyddorol yn disgyn arnaf fi mewn rhan fawr ; ac, fel rheol, y teithiau Sabbothol pell o le mor anghysbell, ynghyd a llawer o ofal a llafur, fel y gwyddoch trwy brofiad, gydag amgylchiadau allanol crefydd. Mae yr hyn a ddywedasoch yn peri i mi frawychu weithiau, rhag fy mod yn anghofio fy achos fy hun yn nghanol man ddyledswyddau; er, trwy drugaredd, byddaf weithiau yn cael golwg arnaf fy hun hefyd.

"Ond wele fi er's deunaw mis bellach wedi fy ngosod mewn sefyllfa o seibiant oddiwrth yr helyntion a nodwyd i raddau mawr. Nis gall fy natur ddal i roddi i chwi fraslun o'm profiad yn y cystudd presenol. Mae llawer o bryder, ofnau ac amheuon pwysig, wedi myned drosof yn y cyfnod hwn. Ond gallaf ddweyd fod rhyw ddisgleirdeb, fel yr Urim a'r Thummim, wedi disgyn ar ryw adnodau yn yr hen Feibl, nes gyru pob ofn ac amheuaeth ymaith. Trwy ryw ymosodiad o eiddo anghrediniaeth yn y ffurf o amheuaeth, digalonais yn fawr, ond cefais nerth i orchfygu yr oll trwy