Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddarllen llythyrau Paul a hanes ei dröedigaeth. Bum yn aros uwchben y ffaith o adgyfodiad Crist, a gwelais wirionedd a chadernid y grefydd Gristionogol, nes mwynhau cysur cryf. O, fy nghyfaill, yr wyf wedi cael ambell i olwg ar gadernid y drefn, a'i chymhwysder i gyfarfod ein trueni, nes codi awydd arnaf i ddiolch, a graddau o hiraeth am gael cyfleusdra i ddweyd tipyn am dani wrth y cynulleidfaoedd. Oes, mae arnaf hiraeth am gael gweled y frawdoliaeth yr arferwn ymweled â hwynt, er ei bod yn bur debyg na chaf. Ar yr un pryd, mae arnaf rwymau i ddiolch ei bod hi arnaf fel y mae yn un peth, fy mod yn cael fy nghystuddio mor dyner, ac hefyd am y nerth wyf yn gael hyd yn hyn i ddioddef heb rwgnach, mewn ymostyngiad i ewyllys ein Tad nefol, er fod fy ewyllys fach i dipyn yn wahanol. Mae cofio am yr Hwn a ddywedodd uwchben y cwpan erchyll Dy ewyllys di a wneler,' yn nerth i mi dawelu i'r cwpan bach hwn. Yr oeddych yn awgrymu i mi y dymunoldeb o gofnodi rhyw ffeithiau hynod mewn cysylltiad â hanes Methodistiaeth yn Cwmystwyth. Ymgymerais y gauaf diweddaf â hyny, ac ysgrifenais ymlaen hyd adeiladu y capel presenol, pan y gorfu i mi adael gan wendid, gan obeithio y cawn ychydig adnewyddiad nerth i orphen. Rhaid i mi beidio bellach, mae natur a gofod yn cyd ddarfod. Gweddiwch drosof, am i mi gael nerth yn ol y dydd. Gyda chofion cynhesaf atoch chwi a'r teulu,

"Yr eiddoch yn ddiffuant,

"THOS. EDWARDS."

Dywedai wrth un o'r brodyr oedd yn ymweled ag ef yn ei gystudd: "Bum wrth wely marw llawer Cristion, a dywedent fod blychau yr addewidion yn tori yn braf; nid oeddwn yn eu deall y pryd hwnw yn dda; ond y mae yn dda genyf ddweyd yr un peth am danaf fy hun, a byddai yn dda genyf pe buasent yn rhoddi ychydig yn llai i mi yr wythnos ddiweddaf yma, mae y mwynhad yn llawn mwy nag y medraf ei ddal." Un arall a ddywed am dano: "Yn ei gystudd olaf, yr oedd holl goncern yr achos yn cael