Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei sylw, a llanw ystadegau yr eglwys oedd gyda'r gwaith olaf a wnaeth. Ac fel yr oedd ei ofal yn fawr am had yr eglwys trwy ei oes, dywedai yn ei gystudd fod 'swn tyrfa o had yr eglwys yn dyfod i gymundeb.' Yr oedd hyn yr wythnos olaf y bu fyw, a dywedodd ef lawer gwaith. Ac y mae yn rhyfedd meddwl, yr ail Sabbath ar ol ei gladdu, yr oedd rhes faith o had yr eglwys yn cofio angau y groes am y tro cyntaf. Mae hyn yn dangos ei fod wedi myned ag enwau y plant ar ei galon at Dduw lawer gwaith, ac i'w Dad nefol ei fendithio â rhyw ymwybyddiaeth sicr fod y pethau a ofynai yn cael eu caniatau.

Nid dyna y tro cyntaf i bethau rhyfedd gymeryd lle mewn canlyniad i'w weddiau ef. Mr. William Howells, blaenor yn y Cwm, a glywodd y dyn ei hun yn adrodd yr hanes canlynol, a bu Mr. Oliver mor garedig a'i anfon i ninau :—“ Yn llanc ieuanc, aeth un William Moses, o Cwmystwyth, i weithiau Morganwg, lle y lletyai gyda gwraig grefyddol o'r un lle ag yntau, yr hon a ymddygai ato fel mam, gan ei gynghori, a gweddio drosto yn gyhoeddus yn y weddi deuluaidd. Cymhellai ef yn daer i roddi ei hunan i Grist, a gwneyd proffes o hono. Ond cyn gwneyd hyny, daeth y diafol i gyfryngu. Amser diwygiad 1859 ydoedd ar y pryd, a chlywai y bachgen y gair diwygiad yn fynych, ond ni wyddai beth ydoedd. Ryw nos Sabbath, wrth gerdded o'r capel yn nghwmni rhai oedd yn canmol y diwygiad, digwyddodd fod gwraig elynol i'r diwygiad yn y cwmni, ac er mwyn dangos nad oedd dim sylwedd ynddo, gofynodd, 'A fuoch chwi yn nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc boreu heddyw, ac a glywsoch chwi hwn a hwn yn gweddio? Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell.' Aeth yr ymadrodd yn ddwfn i feddwl y bachgen; a phan yn meddwl am ymuno a'r eglwys, yr oedd yr ymadrodd 'Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell' yn dyfod i'w feddwl yn y fan, gan ei rwystro i gyflawni ei fwriad. Ymfudodd i America, a bu yno yn ddifater am ei enaid, gan lwyr ymroddi i'r byd a'i amgylchiadau. Ryw ddiwrnod, yn ddisymwth fel fflachiad mellten, deffrowyd ei